Mynwent Artillery Wood

Saif Mynwent Artillery Wood, ger pentref bychan Boezinge, Ieper, Gwlad Belg, ac yno y claddwyd 1,307 o filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn eu plith y bardd Hedd Wyn. Y Commonwealth War Graves Commission sy'n gofalu am y fynwent. Ger y fynwent ceir dwy gofeb cenedlaethol - y naill i filwyr Llydaw a'r llall i filwyr Iwerddon; mae'r gofeb i'r milwyr Cymreig oddeutu milltir i ffwrdd, ger y fan lle lladdwyd Hedd Wyn. Tua milltir a hanner o'r fynwent, yn y fan lle lladdwyd Hedd Wyn saif Cofeb y Cymry yn Fflandrys.

Mynwent Artillery Wood
MathMynwent a gedwir gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1917 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBoezinge Edit this on Wikidata
SirIeper Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Cyfesurynnau50.8996°N 2.8719°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethbeschermd monument Edit this on Wikidata
Manylion

Trosglwyddwyd perchnogaeth y fynwent i'r Deyrnas Gyfunol gan Albert I, brenin Gwlad Belg oherwydd "aberth milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig" yn y Rhyfel wrth amddiffyn a rhyddhau Gwlad Belg o afael yr Almaen.[1]

Cychwynwyd ar y gwaith o gladdu cyrff y dynion yn 1917 wedi iddynt gael eu lladd ym Mrwydr Pilckem Ridge,[2] a pharhawyd gyda'r gwaith hyd at Mawrth 1918.[3] Yn dilyn Cadoediad 11 Tachwedd 1918 roedd 141 o feddau yno. Symudwyd cyrff o dair mynwent (Gerddi Boesinghe Chateau, Plasty Brissein a Fferm y Capten) a maes y gad, gan godi'r nifer i 1,307.[3]

Enwogion golygu

Yn y fynwent hon y claddwyd dau fardd cenedlaethol: Hedd Wyn (1887–1917) o Drawsfynydd a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917. Dywedodd Dyfed, Archdderwydd yr Eisteddfod honno ar y dydd:

Y delyn a ddrylliwyd ar ganol y wledd;
Mae'r ŵyl yn ei dagrau a'r bardd yn ei fedd.

Yma hefyd y claddwyd y bardd Gwyddelig Francis Ledwidge (1887–1917).[4]

Bu farw y ddwy feirdd ar yr un diwrnod, 31 Gorffennaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. First World War, adalwyd 19 Awst 2006
  2. "Artillery Wood Cemetery". Webmatters.net. 1917-07-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-13. Cyrchwyd 2014-05-20. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 Reading Room Manchester. "Cemetery Details". CWGC. Cyrchwyd 2014-05-20.
  4. Ellis H. "Hedd Wyn" Evans at Find a Grave; Francis Edward Ledwidge at Find a Grave
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: