Mynwenta

yr arfer o ymweld â mynwentydd ar gyfer ymchwil neu hamddena

Mynwenta, hefyd hel mynwentydd,[1] yw ymweld yn aml â mynwentydd fel gweithgarwch amser hamdden ac er mwyn casglu gwybodaeth at ddibenion astudio hanes, achyddiaeth, ieithyddiaeth neu gymdeithaseg.[2] Yn ôl Dr Gwen Awbrey:

"Mae'r arysgrifau ar gerrig beddau Cymraeg yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ymchwil i bynciau ieithyddol megis erydiad y Gymraeg ac amrywio tafodiethol, i farddoniaeth draddodiadol, ac i'r newid mewn agweddau at grefydd a chymdeithas."[3]

Cyfeiriadau golygu