Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)

cadwyn o fynyddoedd, Sir Gaerfyrddin

Cadwyn o fynyddoedd yn Sir Gaerfyrddin yw'r Mynydd Du, sy'n gorwedd ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fan Brycheiniog (802 m) yw copa uchaf y Mynydd Du. Yr unig ffordd fawr i groesi'r ardal yw'r A4069, rhwng Brynaman a Llangadog; cyfeiriad grid SO255350. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 549 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mynydd Du
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8814°N 3.7085°W Edit this on Wikidata
Map
Am y Mynydd Du yn Sir Fynwy, gweler Mynydd Du (Mynwy).

Ymestyn y gadwyn o gyffiniau Rhydaman yn y de-orllewin hyd Pontsenni yn y gogledd-ddwyrain. Mynyddoedd Hen Dywodfaen Coch a chalchfaen ydynt yn bennaf. Mae'r Mynydd Du yn rhan o barc daearegol newydd Fforest Fawr.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 703 metr (2306 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Copaon cyfagos golygu

 
Fan Hir
 
Picws Du

Llên gwerin golygu

Mae'r Mynydd Du a'r cylch yn ardal gyfoethog ei chwedlau gwerin. Yr enwocaf yw honno am Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Yma hefyd y lleolir chwedl Llyn Llech Owain a chwedl Ogof Craig y Ddinas. Ar odre gogleddol y Mynydd Du ceir pentref Myddfai, cartref Meddygon Myddfai yn yr Oesoedd Canol.

Darllen pellach golygu

  • Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail arg. 1970)
  • Gomer Morgan Roberts, Chwedlau Dau Fynydd (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1948)

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu