Mynydd y Garn

bryn (170m) ar Ynys Môn

Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd y Garn. Ei uchder yw 170 metr. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin Môn tua milltir a hanner o'r arfordir, tua hanner milltir i'r de o bentref Llanfair-yng-Nghornwy a thua 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caergybi; cyfeiriad grid SH314906. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 60metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mynydd y Garn
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr170 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4°N 4.5°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH3149790679 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd106 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Bodafon Edit this on Wikidata
Map

Mae llethrau uchaf y bryn yn greigiog. Creigiau Ordoficaidd yw sylfaen yr ysgwydd dde-orllewinol.

Ceir sawl safle archaeolegol o gwmpas y bryn, yn cynnwys meini hirion unigol o gyfnod Oes Newydd y Cerrig ac amddiffynfa Castell Crwn.

Gellir cyrraedd copa Mynydd y Garn trwy ddilyn un o sawl llwybr cyhoeddus, naill ai o ochr Llanfair-yng-Nghornwy neu o gyfeiriad Rhydwyn, i'r de.

Y copa golygu

 
Cofeb i Syr William Thomas, Uwch Siryf Ynys Môn; adeiladwyd yn 1897 ar gopa Mynydd y Garn.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 170m (558tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu