Gwleidydd yw Nathan Lee Gill (ganwyd 6 Gorffennaf 1973). Roedd yn Aelod Senedd Ewrop (ASE) dros etholaeth Cymru (2014-2019) ar ran Plaid Brexit. Roedd yn aelod o UKIP hyd at 6 Rhagfyr 2018 ac roedd yn aelod annibynnol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 a Rhagfyr 2017.

Nathan Gill
Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru
Yn ei swydd
5 Mai 2016 – 27 Rhagfyr 2017
Rhagflaenwyd ganAled Roberts
Dilynwyd ganMandy Jones
Arweinydd Plaid Annibyniaeth y DU yng Nghymru
Yn ei swydd
6 Rhagfyr 2014 – 26 Medi 2016
ArweinyddNigel Farage
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganNeil Hamilton
Aelod o Senedd Ewrop
dros Gymru
Yn ei swydd
1 Gorffennaf 2014 – 31 January 2020
Rhagflaenwyd ganJohn Bufton
Dilynwyd gandiddymwyd yr etholaeth
Manylion personol
Ganwyd (1973-07-06) 6 Gorffennaf 1973 (50 oed)
Kingston upon Hull, Lloegr
Plaid wleidyddolReform UK (ers 2019)
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Annibynnol (2018–2019)
UKIP (2004–2018)
Ceidwadwyr (cyn 2004)
PriodJana[1]
Plant5[2]
CartrefLlangefni, Ynys Môn
AddysgColeg Menai
SwyddDyn busnes

Symudodd i fyw i Gymru yn y 1980au. Mae'n byw yn Llangefni, Ynys Môn gyda'i wraig a'i bump o blant. Bu'n aelod o'r Blaid Geidwadol cyn iddo ymaelodi a UKIP yn 2005.[3]

Yn Etholiad y Cynulliad, 2016 enillodd Gill sedd yn cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru.[4] Ymgeisiodd am swydd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad ond fe'i gurwyd gan y cyn-AS Ceidwadol Neil Hamilton, gyda Gill yn disgrifio y digwyddiad yn "bizarre".[5] Yn dilyn hyn gadawodd Gill grŵp UKIP yn y Cynulliad ac eistedd fel aelod annibynnol, gan haeru fod gormod o ffraeo mewnol yn y blaid.[6] Arhosodd fel aelod o'r blaid a'r arweinydd yng Nghymru, hyd nes i Neil Hamilton gael ei wneud yn arweinydd yn Medi 2016.[7] Ar 27 Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y byddai yn ymddiswyddo fel aelod o'r Cynulliad a byddai'r dewis nesaf ar rhestr UKIP, Mandy Jones, yn cymryd ei sedd.[8] Gadawodd plaid UKIP yn Rhagfyr 2018.[9]

Bywyd cynnar a gyrfa golygu

Ganwyd Gill yn Lloegr a symudodd y teulu i Gymru yn gynnar yn y 1980au. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Menai. Ar ôl graddio ymunodd â chwmni preifat y teulu yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Yn Mawrth 2004 sefydlodd Gill Burgill Ltd a'i redeg gyda'i fam Elaine. Cofrestwyd y cwmni yn Llangefni ond roedd y rhan fwyaf o weithgarwch y cwmni yn Hull, gogledd-ddwyrain Lloegr. Roedd y cwmni yn darparu gwasanaeth gofal preswyl a chartref yn benaf i Gyngor Dinas Hull. Roedd y cwmni yn cyflogi staff amrywiol, yn bennaf yn weithwyr o ddwyrain Ewrop a'r Pilipinas, ac yr oedd yn cwmni yn rhoi dewis iddynt gael lle i fyw am dâl (math o fynciau).

Methodd y cwmni ac fe'i rhoddwyd yn nwylo'r gweinyddwr gyda cholled o £116,000 ar ôl i'r prif fanciau HSBC alw fewn eu benthyciad.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 David Williamson (25 May 2014). "UKIP tops poll in Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham". North Wales Daily Post. Cyrchwyd 25 May 2014.
  2. "Mr Nathan Gill MEP (UKIP) – Members of Parliament in Pwllypant, Caerphilly, Wales". South Wales Argus. Cyrchwyd 30 June 2014.
  3. UKIP. "Nathan Gill". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-26. Cyrchwyd 26 May 2014.
  4. "Welsh Assembly election 2016 results". BBC News. Cyrchwyd 2016-05-06. Unknown parameter |iaith= ignored (help)
  5. Sculthorpe, Tim (2016-05-10). "Ukip descends into civil war just six weeks before Brexit vote after disgraced Neil Hamilton defeats Nigel Farage's candidate to seize party leadership in Welsh Assembly". Dailymail.co.uk. Cyrchwyd 2016-07-15. Unknown parameter |iaith= ignored (help)
  6. "UKIP MEP Nathan Gill told to quit as successor is 'ready'". BBC News (yn Saesneg). 29 July 2016. Cyrchwyd 2016-10-28.
  7. "Nathan Gill leaves UKIP assembly group to sit as independent". BBC News (yn Saesneg). 17 August 2016. Cyrchwyd 2016-10-28.
  8. Nathan Gill yn ymddiswyddo fel AC , BBC Cymru Fyw, 27 Rhagfyr 2017.
  9. ASE Cymru, Nathan Gill yn dweud ei fod yn gadael UKIP , BBC Cymru Fyw, 6 Rhagfyr 2018.