Nefyn ach Brychan

santes a merch Brychan o'r 5g

Santes o'r 5g oedd Nefyn ac un o 24 merch Brychan Brycheiniog.[1]

Nefyn ach Brychan
GanwydAberhonddu Edit this on Wikidata
Man preswylRheged Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
MamPrawst Edit this on Wikidata
PriodCynfarch fab Meirchion Edit this on Wikidata
PlantUrien Rheged, Llew ap Cynfarch Edit this on Wikidata

Priododd Cynfarch Cul ap Meirchen a bu eu plant yn llywodraethu Rheged (Ardal y Llynnoedd), Ystrad Clyd a Gŵyr. Ei mab enwocaf oedd Urien Rheged ac roedd yn hen-nain i Cyndeyrn (Mungo) a sefydlodd Llanelwy.[2]

Ffynnon Nefyn golygu

Cysylltir Nefyn yn bennaf gyda Llanefydd ger Dinbych ble lleolir ffynnon sy'n dwyn ei henw, ym mynwent Llanefydd a ail-adeiladwyd yn y 17g. Credwyd y gellai'r ffynnon wella gwaeledd trwy ymdrochi ynddi ar dair dydd Gwener canlynol.

Gweler Hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, T.T. 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
  2. Breverton, T.D. 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr