Rheolwr pêl-droed a chyn chwaraewr pêl-droed proffesiynol Cymreig yw Neville Powell (ganed 2 Medi 1963) sy'n rheoli Tref Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru.

Gyrfa chwarae golygu

Dechreuodd Powell ei yrfa gyda Tranmere Rovers, gan sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn 17 mlwydd oed ar 1 Mawrth 1981.[1]. Gwnaeth 86 ymddangosiad i'r clwb cyn gadael ym 1984 er mwyn ymuno â Dinas Bangor oedd, ar y pryd, yn chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League).[1]. Treuliodd wythn mlynedd gyda'r Dinasyddion gan chwarae yn erbyn Atlético Madrid yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1985[2] ac yn nhymor cyntaf un Uwch Gynghrair Cymru[3].

Ym 1993 cymerodd yr awennau fel chwaraewr-reolwr gyda Chei Connah, ond daeth ei yrfa chwarae i ben ar ddiwrnod agoriadol tymnor 1996-97 wedi iddo dorri ei goes mewn gêm yn erbyn Llansantffraid[1].

Gyrfa rheoli golygu

Wedi 14 mlynedd wrth y llyw gyda Chei Connah cafodd Powell ei benodi'n reolwr ar Dinas Bangor yn 2007[4].

Llwyddodd Powell i ennill Uwch Gynghrair Cymru gyda Bangor yn 2010-11 yn ogystal ag arwain y clwb ar rediad hynod o 22 gêm heb golli gêm yng Nghwpan Cymru welodd Bangor yn ennill Cwpan Cymru yn 2007-08, 2008-09 a 2009-10 a chyrraedd rownd derfynol 2010-11[5]

Cafodd ei wobrwy fel Rheolwr y Flwyddyn yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2009-10 a 2010-11[5] ond yn Gorffennaf 2016 cafodd ei ddiswyddo llai na thair wythnos cyn dechrau'r tymor.

Ar 11 Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd mai Powell fyddai rheolwr newydd Tref Aberystwyth[1].

Mae Powell wedi ei anfarwoli yn Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Powell takes charge at Aberystwyth". Cambrian News. 14 Gorffennaf 2017.[dolen marw]
  2. "Neville Powell and Bangor City's European odyssey". BBC Sport. 12 Gorffennaf 2011.
  3. "Teithio'r tymhorau: 1992/93". Sgorio.
  4. "Bangor appoint Powell as manager". BBC Sport. 9 Mai 2007.
  5. 5.0 5.1 "Bangor yn diswyddo Powell". Sgorio. 25 Gorffennaf 2016.