Gair difrïol a hiliol a ddefnyddir i gyfeirio at bobl dduon yw nigar (Saesneg: nigger).[1] Oherwydd ei hanes, caiff ei ystyried erbyn heddiw yn derm cwbl annerbyniol i'w ddefnyddio, ac ymhlith y mwyaf annerbyniol o bob gair; fel arfer, cyfeirir at y term fel "y gair-N" (Saesneg: the N-word) er mwyn osgoi defnyddio'r gair ei hunan.[2]

Ymhlith Americanwyr Affricanaidd, mae'r gair wedi'i ail-ddefnyddio mewn rhai cyd-destunau, fel arfer ar ffurf y gair nigga. Y gair nigga yw'r gair rhegi mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn cerddoriaeth hip hop Americanaidd.

Etymoleg golygu

Mae'r gair nigger yn Saesneg yn deillio o'r gair Lladin niger (ynganu: [ˈnɪɡɛr]) sy'n golygu "du". Benthycir ffurf Gymraeg y gair, nigar, o'r Saesneg.

Mae'r gair yn cael ei ystyried yn eang fel y gair mwyaf sarhaus yn Saesneg, gyda'r term nigger bron bob amser yn dabŵ.[3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 938 [nigger].
  2. "Y straeon sydd wedi tynnu sylw Ifan Morgan Jones". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2021-06-26.
  3. Oxford English Dictionary
  4. Merriam-Webster Dictionary
  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.