Noel James
Digrifwr o Gymro yw Noel Wyn James (ganwyd Rhagfyr 1965). Fe'i magwyd ym Mhontardawe. Mae'n perfformio yn Gymraeg a Saesneg mewn arddull stand-yp swreal.
Noel James | |
---|---|
Ganwyd | Rhagfyr 1965 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | digrifwr stand-yp |
Astudiodd am radd Ffiseg ym Manceinion. Bu'n athro cyn dod yn ddigrifwr llawn amser.[1]
Mae wedi perfformio comedi ar draws gwledydd Prydain yn rhai o'r clybiau a gŵyliau mwyaf, gan gynnwys Reading, a Gwyl Caeredin. [2]
Ysgrifennodd a pherformiodd yn y sioe sgets Giamocs ar S4C yn 1995. Enwebwyd y sioe ar gyfer gwobr Rose of Montreaux y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd ar y gyfres gomedi stand-yp Gwerthu Allan yn 2014. Perfformiodd ar y rhaglen gomedi Pedwar yn 2015.[3]
Britain's Got Talent golygu
Yn 2018, enillodd le ar sioe Britain's Got Talent ar ITV gan ennill clod y beirniaid. Yn y rownd gynderfynol ar nos Iau, 31 Mai 2018, cyrhaeddodd y tri uchaf yn y bleidlais gyhoeddus. Roedd rhaid i'r beirniaid benderfynu rhwng cynnig lle yn y rownd derfynol iddo fe neu i Tim and Jack Goodacre, deuawd canu tad a mab. Pleidleisiodd y digrifwr David Walliams o'i blaid ond pleidleisiodd y lleill am yr act arall.[4]
Bywyd personol golygu
Bu farw ei fam pan oedd yn 20 oed a bu farw ei dad yn 2013.[1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 Surreal stand-up Noel James on the heartache behind the laughter (en) , WalesOnline, 11 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 1 Mehefin 2018.
- ↑ (Saesneg) Glee Club - Noel James. Adalwyd ar 1 Mehefin 2018.
- ↑ Pedwar
- ↑ So close! Noel James misses place in Britain's Got Talent final (en) , chortle.co.uk, 31 Mai 2018. Cyrchwyd ar 1 Mehefin 2018.