Roedd Noel Kinsey (24 Rhagfyr 1925 - 20 Mai 2017) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru a chwaraeodd yn safle'r mewnwr. Enillodd saith cap rhyngwladol a sgoriodd 111 o goliau mewn 444 o gemau cynghrair mewn gyrfa 14 mlynedd yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr.[1]

Noel Kinsey
Ganwyd24 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata
Treorci Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auPort Vale F.C., Birmingham City F.C., Norwich City F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Noel Kinsey
Gwybodaeth Bersonol
SafleBlaenwr
Gyrfa Ieuenctid
Amaturiaid Treorci
C.P.D. Dinas Caerdydd
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1947–1953Norwich City F.C.223(57)
1953–1958Birmingham City F.C.149(48)
1958–1961Port Vale F.C.72(6)
Cyfanswm444(111)
Tîm Cenedlaethol
1951–1955Cymru7(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Dechreuodd ei yrfa gyda Norwich City yn 1947, gan helpu'r "Canaries" i gyrraedd yr ail safle yn Trydedd Adran y De ym 1950-51. Trosglwyddodd i Birmingham City ym 1953, gan helpu'r clwb i deitl yr Ail Adran ym 1954-55. Sgoriodd yn rownd derfynol Cwpan yr FA 1956, a ddaeth i ben gyda'i dîm yn colli 3-1 i Manchester City. Ym mis Chwefror 1958 fe'i harwyddwyd i Port Vale am ffi o £ 5,000, a helpodd y "Valiants" i enill teitl y Bedwaredd Adran ym 1958-59. Daeth yn hyfforddwr chwaraewr yn Vale Park ym mis Mai 1960, cyn ymadael ym mis Ebrill 1962. Yn ddiweddarach fe chwaraeodd ar gyfer yr ochrau di gynghrair King's Lynn a Lowestoft Town, a bu'n gweithio i gwmni yswiriant Norwich Union.

Cafodd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Norwich City F.C. yn 2003.[2]

Gyrfa ryngwladol golygu

Enillodd Kinsey saith cap dros Gymru rhwng 1951 a 1955. Roedd yn aelod o'r tîm cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 1954, gan chwarae yn y gêm a gollodd Cymru 2-1 i Ogledd Iwerddon ar y Cae Ras ar 31 Mawrth 1954.[3]

Bu farw yn 2017 yn 91 mlwydd oed [4]

Ystadegau golygu

Ystadegau clwb golygu

Clwb Tymor Adran Cyngrhair Cwpan yr FA Arall Cyfanswm
Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl
Norwich City 1947–48]] Trydedd Adran y De 36 1 3 2 0 0 39 3
1948–49 Trydedd Adran y De 22 11 2 1 0 0 24 12
1949–50 Trydedd Adran y De 37 14 5 3 0 0 42 17
1950–51 Trydedd Adran y De 46 13 5 1 0 0 51 14
1951–52 Trydedd Adran y De 44 11 3 1 0 0 47 12
1952–53 Trydedd Adran y De 38 7 2 0 0 0 40 7
Total 223 57 20 8 0 0 243 65
Birmingham City F.C. 1953–54 Ail Adran 37 10 2 0 0 0 39 10
1954–55 Ail Adran 35 13 4 1 0 0 39 14
1955–56 Adran gyntaf 34 14 6 3 0 0 40 17
1956–57 First Division 28 6 7 3 3[a] 0 38 9
1957–58 First Division 15 5 1 0 1[a] 0 17 5
Total 149 48 20 7 4 0 173 55
Port Vale F.C. 1957–58 Trydedd Adran 14 2 0 0 0 0 14 2
1958–59 Pedwaredd Adran 36 3 1 0 0 0 37 3
1959–60 Trydedd Adran 19 1 1 0 0 0 20 1
1960–61 Trydedd Adran 3 0 0 0 3[b] 1 6 1
Total 72 6 2 0 3 1 77 7
Cyfanswm gyrfa 444 111 42 15 7 1 493 127
  1. 1.0 1.1 ymddangosiadau yn yr Inter-Cities Fairs Cup
  2. ymddangosiadau yn y Football League Cup

Ystadegau rhyngwladol golygu

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru
Blwyddyn Ymddangos Gôl
1951 4 0
1952 0 0
1953 0 0
1954 1 0
1955 2 0
Cyfanswm[5] 7 0

Cyfeiriadau golygu

  1. Kent, Jeff (1996). Port Vale Personalities. Witan Books. t. 164. ISBN 0-9529152-0-0.
  2. "Norwich City Hall of Fame". Eastern Daily Press. 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2007. Cyrchwyd 25 July 2007.
  3. Wise, Chris (24 Mai 2017). "Former Norwich City striker Noel Kinsey dies, aged 91". Eastern Daily Press. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018.[dolen marw]
  4. "NOEL KINSEY". Norwich Evening News. 25 Mai, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-14. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018. Check date values in: |date= (help)
  5. "Noel Kinsey". national-football-teams.com. Cyrchwyd 7 August 2015.