Nofel gan Jon Gower yw Norte a gyhoeddwyd yn 2015 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Norte
AwdurJon Gower
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi28/10/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848517745
GenreFfuglen

Nofel wedi'i gosod yn Ne America gan gyn-enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn. Ynddi, mae dau gymeriad gwahanol iawn i'w gilydd yn cyfarfod, ond ŵyr neb beth fydd effaith y cyfarfyddiad ar eu ffawd ill dau. Llanc ifanc yn ceisio cyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn dianc rhag tlodi affwysol ei famwlad yn America Ganol yw un, a bachgen cyffredin o dre fechan yn Arisona yw'r llall.

Mae Jon Gower yn awdur nofelau, straeon byrion a llyfrau ffeithiol yn Gymraeg a Saesneg. Enillodd ei nofel Y Storïwr wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012 ac roedd Jon yn un o Gymrodyr Rhyngwladol cyntaf Gŵyl y Gelli. Mae e'n byw yng Nghaerdydd gyda llond tŷ o fenywod: ei wraig Sarah a'i ferched Elena ac Onwy.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu