Northern Soul

Cerddoriaeth dawns a fu'n boblogaidd yng Ngogledd Lloegr a Gogledd Cymru yn y 1970au.

Mae Northern Soul yn is-ddiwylliant cerddorol a dawns yn seiliedig ar recordiau gan grwpiau a chantorion Americanaidd duon. Fel arfer mae recordiau Northern Soul o'r 1960au gyda churiad cyflym yn addas ar gyfer dawnsio egnïol ac acrobataidd.

Northern Soul
Dyddaid 1970au
Lleoliad Gogledd a chanolbarth Lloegr,
Gogledd Cymru
Gwreiddiau Cerddoriaeth ddu Americanaidd
Soul, R&B, Mød
Ffotograff o fathodyn o'r 1970au gyda dwrn du symbol 'Black Power' a'r ddraig goch o fewn cylch gyda'r geiriau 'Soul Wales'
Bathodyn o'r 1970au. Daeth symbol y dwrn du Black Power yn logo i Northern Soul er i bron cyfan o'r dilynwyr fod yn bobl wyn.
Roedd y gerddoriaeth a'r ffasiynau’n boblogaidd iawn yng Ngogledd Cymru..

Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc, dosbarth gweithiol yng Ngogledd a Chanolbarth Lloegr a Gogledd Cymru yn y 1970au.

Datblygiad golygu

Datblygodd Northern Soul ar ddiwedd y 1960au. Arhosodd recordiau gyda geiriau ag enaid emosiynol, curiad dawns trwm a tempo cyflym yn boblogaidd yng nghlybiau dawns Gogledd Lloegr. Ni dilynwyd y ffasiynau diweddaraf wrth i steil cerddoriaeth Soul Americaniad newid gyda ffasiynau tua Funk a Disco.

Defnyddiwyd yr enw Northern Soul ar ddechrau'r 1970au i ddisgrifio'r dewis o recordiau a'r steil o ddawnsio mewn clybiau fel The Torch yn Stoke-on-Trent, y Twisted Wheel ym Manceinion, Blackpool Mecca ac yn bennaf The Wigan Casino.

Daeth recordiau sengl 7 modfedd prin o dechrau'r 1960au gan labeli bach nad oedd wedi bod yn llwyddiannau masnachol yn gasgliadwy iawn. Cystadlodd DJ's y clybiau i ddod o hyd i recordiau nad oedd neb arall wedi llwyddo cael gafael arnynt.[1][2][3]

Dawnsio golygu

Datblygodd steil o ddawnsio acrobataidd iawn wedi'i ysbrydoli gan grwpiau a chantorion fel Little Anthony & the Imperials a Jackie Wilson. Roedd y dawnswyr yn dawnsio'n unigol heb bartner neu hyd yn oed cymryd fawr o sylw o ddawnswyr o'u hamgylch. Yn wahanol i'r arfer ar gyfer pobl ifanc, y dawnsio oedd peth pwysicach y noson yn hytrach na chyfarfod cariadon. Hefyd yn groes i'r arfer, dynion oedd y dawnswyr mwyaf brwdfrydig a'r mwyafrif presennol.

Roedd sbinio yn rhan bwysig o'r steil dawns gyda'r dawnswyr gorau'n gwneud ciciau uchel, fflipiau a dropio i'r llawr yn acrobataidd iawn. Roedd y cyffur amffetamin (speed) yn gymorth i lawer o'r dawnswyr gael egni ychwanegol drwy'r nos a'r bore canlynol (roedd nosweithiau'r Wigan Casino, er enghraifft, yn mynd ymlaen tan 8am y bore canlynol).[4]

Dillad golygu

Roedd steil penodol o wisgo gyda dillad llydan yn gysylltiedig â'r gerddoriaeth. Y mwyaf nodweddiadol o'r steil oedd trowsus llydan 'Oxford Bags' - hyd at 30 modfedd o led. Hefyd roedd festiau, crysiau 'Ben Sherman', cotiau a sgertiau hir ac esgidiau lledr 'brogue' yn cael eu gwisgo. Roedd yr esgidiau 'brogues' gyda gwadnau lledr yn arbennig o addas ar gyfer llithro'r traed ar y llawr dawns bren. Weithiau roedd powdr talc yn cael ei daflu dros y llawr i'w wneud yn fwy llithrig.

Gan fod y nosweithiau dawnsio yn parhau dros nôs tan y diwrnod wedyn roedd y dawnswyr yn aml yn mynd a bag ar gyfer newid dillad gyda nhw. Addurnwyd y bagiau gyda bathodynnau crwn gydag enwau'r wahanol glybiau a symbol y dwrn du.

Adfywiad golygu

Erbyn diwedd y 1970au roedd Northern Soul yn colli'i boblogrwydd a chynhaliwyd noson olaf y The Wigan Casino ym 1981. Mae'r gerddoriaeth a'r steil dawns wedi mwynhau adfywiad o ddiddordeb yn y 21ain ganrif gyda ffilmiau fel Northern Soul (2014) a Soulboy (2010), rhaglenni dogfen, nosweithiau aduniadau ac hyd yn oed sîn Northern Soul ymhlith pobl ifanc yn Japan.[5]

Clasuron Northern Soul - detholiad y DJ Kev Roberts golygu


  • Do I Love You (Indeed I Do) - Frank Wilson
  • Out on the Floor - Dobie Gray
  • You Didn't Say a Word - Yvonne Baker
  • The Snake - Al Wilson
  • Long After Tonight is Over - Jimmy Radcliffe
  • Seven Day Lover - James Fountain
  • You Don't Love Me - Epitome of Sound
  • Looking for You - Garnet Mimms
  • If That's What You Wanted - Frankie Beverly & the Butlers
  • Seven Days Too Long - Chuck Wood
  • The Right Track - Billy Butler
  • Stick By Me Baby - Salvadors
  • I Really Love You - Tomangoes
  • Time Will Pass You By - Tobi Legend
  • Landslide - Tony Clarke
  • Too Late - Larry Williams & Johnny 'Guitar' Watson
  • You Don't Know Where Your Interest Lies - Dana Valery
  • Walking Up a One Way Street - Willie Tee
  • If You Ever Walk Out of My Life - Dena Barnes
  • There's a Ghost in My House - R. Dean Taylor[6]

Dewis DJ Richard Searling o'i hoff recordiau Northern Soul golygu


  • The Salvadors: Stick By Me Baby - Wiseworld (1967)
  • Chubby Checker: You Just Don't Know (What You Do To Me Girl) - Cameo Parkway (1965)
  • Linda Jones: I Just Can't Live My Life (Without You Babe) - Warner Seven Arts 45 (1968)
  • Gloria Jones: Tainted Love - Champion 45 (1965)
  • Yvonne Baker: You Didn't Say A Word - Parkway 45 (1967)
  • The Vel Vets: Got To Find Me Somebody - 20th Century 45 (1966)
  • Marvin Gaye: Love Starved Heart (It's Killing Me) - Tamla 45 (1966)
  • Tony Clarke: Landslide US'- Chess 45 (1966)
  • The Charades: The Key To My Happiness - MGM 45 (1968)
  • The Dells: Run For Cover - Cadet 45 (1968)[7]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-03. Cyrchwyd 2018-02-16.
  2. David Nowell, Too Darn Soulful: The Story of Northern Soul
  3. David Nowell The Story of Northern Soul, Anova Books, 1999, ISBN 1907554726, accessed 11 May 2014
  4. Andy Wilson. Northern Soul: Music, Drugs and Subcultural Identity
  5. http://www.independent.co.uk/travel/asia/japan-northern-soul-music-kobe-club-night-nude-restaurant-o-jays-never-forget-you-gonna-be-a-big-a7990431.html
  6. https://www.thoughtco.com/the-great-northern-soul-classic-songs-2523456
  7. https://www.manchestereveningnews.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/wigan-casino-dj-richard-searling-7952521