Beirniad llenyddol ac academydd o Ganada oedd Herman Northrop Frye CC (14 Gorffennaf 191223 Ionawr 1991).

Northrop Frye
Ganwyd14 Gorffennaf 1912 Edit this on Wikidata
Sherbrooke Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1991 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, athronydd, addysgwr, clerig, bardd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amFearful Symmetry, Anatomy of Criticism Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Molson, Cydymaith o Urdd Canada, Pierre Chauveau Medal, Cymrodoriaeth Cymdeithas Frenhinol Canada Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd yn Sherbrooke yn nhalaith Québec, a fe'i magwyd ym Moncton, New Brunswick. Astudiodd athroniaeth a Saesneg yng Ngholeg Victoria ym Mhrifysgol Toronto o 1929 i 1933. Cyflawnodd gwrs diwinyddiaeth yng Ngholeg Emmanuel, a chafodd ei ordeinio yn Eglwys Unedig Canada yn 1936. Aeth i Goleg Merton, Rhydychen ar ysgoloriaeth a derbyniodd ei radd meistr yno yn 1940. Dychwelodd i Ganada yn 1939 i addysgu yn adran Saesneg Coleg Victoria, a daeth yn gadeirydd yr adran honno yn 1952. Daliodd swyddi prifathro (1959–67) a changhellor (1978–91) y coleg, ac arhosodd yno hyd ddiwedd ei fywyd. Bu farw yn Toronto yn 78 oed.[1][2]

Beirniadaeth lenyddol golygu

Ymdriniai llyfr cyntaf Frye, Fearful Symmetry (1947), â barddoniaeth broffwydol William Blake, pwnc a oedd hyd yn hynny wedi ei esgeuluso gan ysgolheigion. Dangosai Frye bod Blake yn tynnu ar symbolaeth grefyddol, megis John Milton, sydd yn dibynnu ar y Beibl. Deng mlynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Frye ei ail lyfr a'i waith pwysicaf, Anatomy of Criticism (1957), astudiaeth gyfolwg o egwyddorion a thechnegau sydd yn categoreiddio'r mythau, cynddelwau, a rhethreg sydd yn gyffredin i lên y byd.fyd-eang. Yn y 1960au cyhoeddodd lyfrau ar T. S. Eliot, Milton, William Shakespeare, a'r Rhamantwyr Seisnig. Dylanwadodd ei waith ar sawl beirniad ac ysgolhaig llenyddol yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, gan gynnwys Harold Bloom a Geoffrey Hartman.

Daeth Frye yn ddeallusyn enwog a deithiodd yn rhyngwladol, a chyhoeddodd sawl cyfrol o draethodau a darlithoedd. Cafodd ddylanwad neilltuol ar lên ei famwlad, ac ymhlith ei fyfyrwyr mae nifer o lenorion gwychaf Canada, gan gynnwys Jay Macpherson, James Reaney, a Margaret Atwood. Dadleuai Frye bod llên Canada yn gynnyrch "meddylfryd garsiwn" (Saesneg: garrison mentality) sydd yn adlewyrchu tywyllwch a diffeithder ei daearyddiaeth.[3] Yn The Great Code: The Bible and Literature (1982), lluniai Frye ddisgwrs ar dechnegau traethiadol ac arddull y Beibl, a'i ddylanwad ar lenyddiaeth y Gorllewin.

Llyfryddiaeth golygu

  • Fearful Symmetry: A Study of William Blake (1947)
  • Anatomy of Criticism (1957)
  • The Well-Tempered Critic (1963)
  • The Educated Imagination (1963)
  • T. S. Eliot (1963)
  • Fables of Identity (1963)
  • A Natural Perspective (1965)
  • The Return of Eden (1965)
  • Fools of Time (1967)
  • The Modern Century (1967)
  • A Study of English Romanticism (1968)
  • The Stubborn Structure (1970)
  • The Bush Garden (1971)
  • The Critical Path (1971)
  • The Secular Scripture (1976)
  • Spiritus Mundi (1976)
  • Northrop Frye on Culture and Literature (1978)
  • Creation and Recreation (1980)
  • The Great Code (1982)
  • Divisions on a Ground (1982)
  • The Myth of Deliverance: Reflections on Shakespeare's Comedies (1983)
  • No Uncertain Sounds (1988)
  • On Education (1988)
  • Myth and Metaphor: Selected Essays, 1974-1988 (1990)
  • Words with Power (1990)
  • Reading the World: Selected Writings, 1935-1976 (1990)
  • The Double Vision (1991)
  • The Eternal Act of Creation: Essays by Northrop Frye 1979-1990 (1992)

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Northrop Frye. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Tachwedd 2018.
  2. (Saesneg) "Northrop Frye Archifwyd 2019-03-29 yn y Peiriant Wayback.", Coleg Victoria, Prifysgol Toronto. Adalwyd ar 25 Tachwedd 2018.
  3. (Saesneg) "Northrop Frye", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 25 Tachwedd 2018.

Darllen pellach golygu

Bywgraffiadau golygu

  • John Ayre, Northrop Frye: A Biography (1989).
  • Joseph Adamson, Northrop Frye: A Visionary Life (1993).

Astudiaethau o'i waith golygu

  • Murray Krieger (gol.), Northrop Frye in Modern Criticism (1966).
  • Robert D. Denham, Northrop Frye and Critical Method (1974).
  • Eleanor Cook et al. (goln), Centre and Labyrinth (1985).
  • Ian Balfour, Northrop Frye (1988).
  • A. C. Hamilton, Northrop Frye: An Anatomy of His Criticism (1990).
  • Robert D. Denham a Thomas Willard (goln), Visionary Poetics: Essays on Northrop Frye's Criticism (1991).
  • David Cayley, Northrop Frye in Conversation (1992).
  • Jonathan Hart, Northrop Frye: The Theoretical Imagination (1994).
  • Alvin A. Lee a Robert D. Denham (goln), The Legacy of Northrop Frye (1994).
  • David Boyd a Imre Salusinszky (goln), Rereading Frye: the Published and Unpublished Works (1999).
  • Caterina Nella Cotrupi, Northrop Frye and the Poetics of Process (2000).
  • Jean O’Grady a Wang Ning (goln), Northrop Frye: Eastern and Western Perspectives (2003).
  • Jeffery Donaldson a Alan Mendelson (goln), Frye and the Word (2004).
  • Robert Denham, Northrop Frye: Religious Visionary and Architect of the Spiritual World (2004).
  • Glen Robert Gill, Northrop Frye and the Phenomenology of Myth (2006).
  • David Rampton (gol.), Northrop Frye: New Directions from Old (2009).

Llyfryddiaethau golygu

  • Robert D. Denham, Northrop Frye: An Annotated Bibliography of Primary and Secondary Sources (1987).
  • Robert D. Denham, Northrop Frye: A Bibliography of His Published Writings, 1931—2004 (2004).