Nyth Cacwn (cyfres deledu)

Cyfres gomedi sefyllfa Gymraeg wedi'i gosod ar fferm ddychmygol o'r un enw yng ngorllewin Cymru oedd Nyth Cacwn.[1] Ysgrifennwyd y gyfres gan Ifan Gruffydd ac Euros Lewis. Roedd y gyfres yn seiliedig ar hynt a helynt Wiliam (Ifan Gruffydd), gwas newydd a oedd wedi dod i weithio ar fferm gwraig weddw o'r enw Gwyneth (Grett Jenkins) a'i merch Delyth (Gwyneth Hopkins). Henry (Dafydd Aeron) oedd enw cariad Delyth - 'pot blodyn o ddyn' a oedd yn gweithio yn y banc - ac roedd Einon (John Phillips) yn hen was direidus a chyfrwys. Roedd y cymydog Herbert Thomas (William Vaughan) hefyd yn rhan o'r stori, gŵr parchus ag acen ogleddol a chanddo 'un llygad ar y fferm a'r llall ar Mam [Gwyneth]'.

Nyth Cacwn
Genre Comedi
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Teledu'r Tir Glas
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 13 Mai 1989 – 24 Mehefin 1989

Cafodd chwe phennod cyfres gyntaf Nyth Cacwn eu hysgrifennu yn 1988, a'u darlledu ar S4C yn 1989. Ysgrifennwyd ail gyfres, ond ni chafodd ei chomisiynu. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Teledu'r Tir Glas.

Cast golygu

  • Wiliam - Ifan Gruffydd
  • Delyth - Gwyneth Hopkins
  • Mam (Gwyneth) - Grett Jenkins
  • Einon - John Phillips
  • Henry - Dafydd Aeron
  • Herbert Thomas - William Vaughan
  • Gertrude (Mam Henry) - Hannah Roberts
  • Twm Post - Phyl Harries
  • Anti Popi - Gwenyth Petty

Penodau golygu

  1. Wiliam
  2. Trafferth gyda'r Hwrdd
  3. Godro'r Fuwch
  4. Y Briodas
  5. Wyau Clwc
  6. Y Dyweddïo

Cyfeiriadau golygu