Cymeriad ym mytholeg Iwerddon yw Oisín, ffurf Gymraeg Osian. Mae'n ymddangos yng Nghylch Fionn fel mab Fionn mac Cumhaill a Sadb, merch Bodb Dearg. Cyflwynir ef fel bardd mwyaf Iwerddon a rhyfelwr yn y Fianna; yn draddodiadol ef yw awdur y rhan fwyaf o'r farddoniaeth yng Nghylch Fionn.

Ossian, gan François Pascal Simon Gérard
Breuddwyd Ossian, Jean Auguste Dominique Ingres, 1813

Yn y stori enwocaf amdano, mae Níamh Chinn Óir (Nia Ben Aur), merch Manannán mac Lir, duw y môr, yn ymddangos iddo ac yn dweud ei bod wedi syrthio mewn cariad ag ef. Aiff ag ef i wlad Tír na n-Óg, a genir mab iddynt o'r enw Oscar, a merch o'r enw Plor na mBan.

Wedi'r hyn sy'n ymddangos iddo ef yn dair blynedd, mae Oisín yn penderfynu dychwelyd i Iwerddon. Mewn gwirionedd mae 300 mlynedd wedi mynd heibio. Wrth roi benthyg ei cheffyl Embarr iddo, mae Níamh yn ei rybuddio i beddio a gadael i'w droed gyffwrdd y llawr. Fodd bynnag, mae Oisín yn syrthio i'r llawr wrth geisio helpu gweithwyr i godi carreg, ac mae'n troi yn hen ŵr ar ei union. Defnyddiwyd y stori fel sail i gerdd Gymraeg gan Thomas Gwynn Jones ac i'r opera roc Gymraeg Nia Ben Aur.

Seiliwyd Ossian, awdur honedig y farddoniaeth a gyhoeddwyd gan James Macpherson yn y 1760au, ar Oisín.