Oliver Thomas

clerigwr Piwritanaidd ac awdur

Clerigwr ac awdur Cymreig oedd Oliver Thomas (tua 1598 - 1652). Roedd yn Biwritan cynnar a gyhoeddodd bedwar llyfr crefyddol yn y Gymraeg, yn cynnwys Car-wr y Cymru (sef "Carwr y Cymry").[1]

Oliver Thomas
Ganwyd1598 Edit this on Wikidata
Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1653 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethclerig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Thomas yn Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) tua'r flwyddyn 1598. Ar ôl cyfnod ger Croesoswallt yn Swydd Amwythig, cafodd ei benodi'n Brofwr dan y ddeddfwriaeth Biwritanaidd Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru a rhoddwyd iddo fywoliaeth plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Sir Ddinbych. Bu farw yn 1652.[1]

Gwaith llenyddol golygu

Cyfieithodd neu addasodd bedwar llyfr Saesneg i'r Gymraeg er mwyn hyrwyddo Anghydffurfiaeth a Phiwritaniaeth yng Nghymru. Ystyrir un o'r llyfrau hyn, sef Car-wr y Cymru, yn un o glasuron rhyddiaith llenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Car-wr y Cymru (1630)
  • Car-wr y Cymru (1631)
  • Sail Crefydd Ghristnogol (c. 1640). Ysgrifennwyd ar y cyd ag Evan Roberts o Lanbadarn.
  • Drych i Dri Math o Bobl (c. 1647)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).