Osiris (/ˈsaɪər[invalid input: 'ɨ']s/, hefyd Ausir, Asiri, neu Ausar), oedd yn dduw'r Hen Aifft, a gysylltir yn bennaf â'r ôl-fywyd, yr isfyd/annwn, a'r meirw. Fe yw duw'r trawsnewid, ailgyfodedigaeth, ac atgenhedlaeth. Darlunnir ef fel arfer yn ddyn â chreon gwyrdd a barf ffaro, wedi'i wisgo fel mymi ar ei goesau, dan wisgo coron amlwg sydd â dwy bluen estrys fawr ar bob ochr y goron. Mae hefyd yn dal magl a ffust symbolaidd. Ystyrid Osiris ar un adeg yn fab hynaf i dduw'r ddaear Geb, er bod ffynonellau eraill yn dweud mai mab i dduw'r haul, Ra, yr ydoedd,[1] a duwies y nefoedd, Nut, yn ogystal â bod yn frawd a gŵr i Isis, gyda Horus yn fab iddo ond ar ôl i Osiris farw.[1] Cysylltir ef hefyd â'r epithet Khenti-Amentiu, sy'n golygu "Blaen y Gorllewinwyr", cyfeiriad i'w frenhiniaeth yng ngwlad y meirw.[2] Fel rheolwr y meirw, adweinir Osiris weithiau fel "brenin y [bodau] byw": roedd yr hen Eifftwyr yn ystyried y meirw bendigaid yn "fodau byw".[3]

Osiris
Duw'r ôl-fywyd, bywyd, ac ailgyfodedigaeth
Osiris, arglwydd y meirw. Mae ei groen gwydd-du yn cynrychioli aileni.
Enw mewn hieroglyffigau'r Aifft
Q1
D4
A40
Canolfan gwlt bwysigAbydos
SymbolauY fagl a'r ffust, Corun Atef, plu estrysod, pysgod, rhwyllen mymu
CymarIsis
RhieniGeb a Nut
SiblingiaidIsis, Set, Nephthys, Haroeris
PlantHorus
Head of the God Osiris, ca. 595-525 B.C.E. Brooklyn Museum


Nodiadau golygu

  1. 1.0 1.1 Wilkinson, Richard H. (2003). The Complete Gods and Goddesses of Ancient Egypt. London: Thames & Hudson. t. 105. ISBN 0-500-05120-8.
  2. "How to Read Egyptian Hieroglyphs", Mark Collier & Bill Manley, British Museum Press, p. 41, 1998, ISBN 0-7141-1910-5
  3. "Conceptions of God In Ancient Egypt: The One and the Many", Erik Hornung (translated by John Baines), p. 233, Cornell University Press, 1996, ISBN 0-8014-1223-4
  • Freemasonry and its Ancient Mystic Rites. t. 35–36, by C. W. Leadbeater, Gramercy, 1998 ISBN 0-517-20267-0

Cyfeiriadau golygu