Enw ar gyfnod yn hanes yr Eglwys Gatholig yw Pabaeth Avignon pan fu'r pabau yn breswyl yn Avignon yn ne-ddwyrain Ffrainc o 1309 hyd 1377. Teyrnasoedd saith pab o Avignon: Clement V (1305–14), Ioan XXII (1316–34), Bened XII (1334–42), Clement VI (1342–52), Innocentius VI (1352–62), Urbanus V (1362–70), a Grigor XI (1370–78).

Pabaeth Avignon
Enghraifft o'r canlynolrhannu i gyfnodau hanesyddol, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1309 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1377 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Pabaeth Avignon

Yn sgil marwolaeth y Pab Bened XI yn 1304, cynhaliwyd conclaf yn Perugia am flwyddyn gyfan bron i ddewis ei olynydd. Rhennid cydbwysedd grym y cardinaliaid rhwng y Ffrancod a'r Eidalwyr. O'r diwedd, etholwyd y Ffrancwr Raymond Bertrand de Got, cyn-archesgob Bordeaux nad oedd ei hun yn gardinal, yn Bab Clement V. O ganlyniad i'r ymraniadau a'r ymgecru yn Rhufain, llwyddodd Philippe IV, brenin Ffrainc i ddwyn perswâd ar Clement V i symud prifddinas y Babaeth i Avignon. Ar y pryd, rhan o Deyrnas Arles, neu Deyrnas y Ddwy Fwrgwyn, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Avignon.

Taleithiau'r Babaeth a chlofan Avignon yn Ffrainc

Dan olynydd Clement, y Pab Ioan XXII, sefydlwyd llys pabaidd newydd yn Avignon i weinyddu materion eglwysig ac i gynnal cynghorau diwinyddol a gwleidyddol. Yn y cyfnod hwn hefyd cyflwynwyd diwygiadau i'r glerigiaeth, hyrwyddwyd addysg y prifysgolion, ac anfonwyd cenadaethau i wledydd pell, gan gynnwys Tsieina. Yn 1348 daeth Avignon dan berchenogaeth uniongyrchol y Babaeth.

Yn 1327 arweiniodd Ludwig, Dug Bafaria (yn ddiweddarach Louis IV, Ymerawdwr Glân Rhufeinig) ymgyrch i Rufain i orseddu Marsilius o Padua, yr hwn a gondemniwyd yn heretic gan Babaeth Avignon. Gwrthwynebwyd ail-leoliad y Babaeth gan sawl brenhinllin yn Ewrop, yn enwedig Teyrnas Lloegr, a oedd yn ei gweld yn daeogaidd i ddiddordebau Ffrainc. Er oedd bob un o'r saith pab a etholwyd, a 111 o'r 134 o gardinaliaid a benodwyd, yn Avignon yn Ffrancod, mae haneswyr diweddar wedi dangos nad oedd Pabaeth Avignon bob tro yn ildio i gymhellion y Ffrancod. Cafodd ei beirniadu hefyd gan y Santes Gatrin o Siena ac eraill am lygredigaeth a dirywiad moesol.

Dychwelodd y Babaeth i Rufain yn 1377 dan Grigor XI, ac etholwyd ail bab gan y cardinaliaid yn Avignon, gan sbarduno'r Sgism Fawr yn yr Eglwys Gatholig. Bu olyniaeth o wrth-babau yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall.

Palas y Pabau, Avignon

Cyfeiriadau golygu