Mae'r Pair Dadeni yn bair sy'n gallu adfywio celaneddau'r meirw. Mae'n chwarae rhan bwysig yn chwedl Branwen ferch Llŷr, yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi.

Y Pair Dadeni yn cael ei dwyn o'r llyn gan y cawr, gyda'i wraig yn ei ddilyn (engrafiad yn ail argraffiad cyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogi, 1877)

Yn y chwedl mae Bendigeidfran yn derbyn y Pair Dadeni gan y cawr Llasar Llaes Gyfnewid a'i wraig Cymydei Cymeinfoll mewn diolch am y nawdd a gawsant yn llys Bendigeidfran ar ôl dianc o'r Tŷ Haearn a ffoi o Iwerddon. Yn Iwerddon roeddent yn byw yn Llyn y Pair (lleoliad anhysbys heddiw). Roedd Matholwch yn eistedd ar ben gorsedd (bryn neu dwmpath a gysylltir â'r Arallfyd a'r Tylwyth Teg) pan welodd y cawr a'i wraig yn dod allan o'r llyn gyda'r pair. Un mawr a hyll oedd y cawr ond dwywaith mwy mewn maintioli a hyllder oedd ei wraig. Cawsant le yn llys Matholwch ond roeddent yn aflonyddu ar bawb a cheisiodd y Gwyddelof eu difa, yn aflwyddiannus, trwy eu llosgi yn y Tŷ Haearn.

Er mwyn gwneud iawn am sarhad Efnysien ar y brenin Matholwch trwy anffurfio ei feirch cyn ei briodas â Branwen, rhydd Bendigeidfran y Pair Dadeni i Fatholwch ac mae'n dychwelyd i Iwerddon gyda Branwen a'r pair.

Yn ddiweddarach, ar ôl i Fendigeidfran a'r Brythoniaid fynd drosodd i Iwerddon i geisio dial y sarhad ar Franwen yn llys Matholwch, mae brwydr yn torri allan rhwng y Brythoniaid a'r Gwyddyl. Mae pethau'n dechrau troi'n go ddrwg ar y Brythoniaid gan fod y Gwyddelod yn taflu celaneddau eu rhyfelwyr meirw i'r Pair Dadeni i'w adfywio (yn fyw ond yn fyddar). Ond mae Efnysien yn achub y dydd trwy neidio i'r pair a'i ddryllio'n yfflon, gan aberthu ei hun yn y broses er mwyn achub y Brythoniaid.

Mae'r Pair Dadeni yn perthyn i ddosbarth o beiriau hud a lledrith, gan amlaf yn beiriau llawnder (h.y. yn ffynonellau dihysbydd o fwyd ac ati) sy'n elfen gyffredin ym mytholeg y Celtiaid. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys pair Diwrnach Wyddel yn y chwedl Culhwch ac Olwen a'r pair a geisir gan Arthur yn y gerdd fytholegol Preiddiau Annwfn. Ceir sawl enghraifft gyffelyb yn llenyddiaeth Iwerddon. Enghraifft arall yw pair Ceridwen, ffynhonnell yr Awen yn Hanes Taliesin.

Mae rhai elfennau o chwedloniaeth y peiriau Celtaidd hyn yn elfennau amlwg yn chwedl y Greal Santaidd yn nhraddodiad yr Oesoedd Canol.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)