Clefyd sy'n deillio o ddiffyg fitamin B3 (niacin) yw pelagra. Ymhlith y symptomau mae croen llidus, briwiau yn y geg, dolur rhydd a gorddryswch.[1] Fel arfer mae'r rhannau o'r croen sy'n agored i olau'r haul neu i rwbiad yn cael eu heffeithio gyntaf. Dros amser gall y croen hwnnw dywyllu, anystwytho, croenio neu waedu.

Pelagra
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd diffyg maethiad, other acquired skin disease, clefyd y croen, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauDolur rhydd, rhithweledigaeth edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae dau brif fath o'r clefyd. Mae'r math cyntaf yn cael ei achosi gan fwyta bwyd nad yw'n cynnwys digon o niacin a thryptoffan. Mae'r ail math yn deillio o anallu'r corff i ddefnyddio'r niacin mewn bwydydd. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i rai afiechydon, yn ogystal ag alcoholiaeth, a nifer o feddyginiaethau fel isoniasid.

Yn hanesyddol, mae pelagra yn glefyd o dlodi sy'n gysylltiedig â diffyg maeth. Mae i'w ganfod o hyd mewn gwledydd datblygol, yn enwedig ymhlith pobl sy'n cael y rhan fwyaf o'u hegni bwyd o indrawn, yn arbennig yn Ne America wledig, gan fod indrawn yn ffynhonnell wael o niacin a thryptoffan.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Orphanet: Pellagra". orpha.net (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ebrill 2017. Cyrchwyd 10 Mehefin 2017.
  2. Hegyi, J.; Schwartz, R. A.; Hegyi, V. (2004). "Pellagra: Dermatitis, dementia, and diarrhea" (yn en). International Journal of Dermatology 43 (1): 1–5. doi:10.1111/j.1365-4632.2004.01959.x. PMID 14693013.