Arweinydd Cristnogol a thraethodydd crefyddol Tsieceg oedd Petr Chelčický (tua 1390 – tua 1460) a arddelai heddychiaeth yn ystod y Diwygiad Bohemaidd.

Petr Chelčický
Darluniad o Petr Chelčický yn ymddiddan â meistri Prifysgol Prag.
Ganwydc. 1390 Edit this on Wikidata
Chelčice Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athronydd, diwinydd Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Chelčic, yn ne Teyrnas Bohemia, yn aelod o'r bonedd. Dylanwadwyd arno'n gryf gan feddwl y Sais John Wycliffe, a'r diwygiwr Jan Hus, a ferthyrwyd ym 1415. Ar y cychwyn, ymlynodd Chelčický â changen radicalaidd yr Husiaid, y Taboriaid, ond trodd ei gefn ar drais y rheiny gan ddadlau nad oedd yn bosib i Gristion ladd yn enw Duw. Yn ei ysgrifeniadau, condemniodd y gosb eithaf a rhyfela, a gwrthwynebodd fasnach, llwon, a bywyd trefol. Arddelai ffurf gyntefig ac egalitaraidd ar Gristnogaeth, yn groes i bob math o rym ac awdurdod seciwlar. Credodd Chelčický i gymdeithas o'r fath fodoli yng nghyfnod yr Eglwys Fore, cyn teyrnasiad Cystennin Fawr.

Ysgrifennodd Chelčicky ryw 50 o draethodau ar bynciau crefyddol, pob un yn yr iaith Tsieceg. Ei brif weithiau yw O boji duchovním ("Rhyfela Ysbrydol"), O trojím lidu ("Teir-Raniad Cymdeithas"), Sieť viery pravé ("Rhwyd y Wir Ffydd"), a Postilla (casgliad o'i bregethau). Sefydlwyd Brawdoliaeth Chelčice ar sail ei ddysgeidiaeth, ac ym 1457 yn Krunwald datblygodd yr honno yn y Frawdoliaeth Fohemaidd, neu Undod y Brawdolion, sef yr Eglwys Forafaidd bellach. Bu farw Petr Chelčický yn ei dref enedigol, Chelčic, oddeutu 70 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Peter Chelčický. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2023.