Band pop merched Cymraeg o'r 2000au oedd Pheena, a ffurfiwyd yn 2002.

Yr aelodau oedd: Ceri Bostock (o Landwrog), Sara Roberts (o Benllech) a Tesni Jones (o Fae Colwyn) [1] Cyfarfu'r merched mewn cyfweliad[1] pan oedd Ceri a Sara yn gwneud cwrs perfformio ym Mangor ac fe gawson nhw gyfweliad ar gyfer band pop newydd, cyn cyfarfod â Tesni.[1]. Ymhlith artistiaid eraill, maen nhw wedi perfformio yn Peterborough (2003) efo 'Blue a Liberty X' o flaen 15,000 o bobl.

Roedd aelodau'r band yn sgwennu eu caneuon eu hunain. Mae Rob Reed a Tina Murphy hefyd wedi cyfansoddi ar eu cyfer, a Caryl Parry Jones yn cyfieithu'r caneuon i'r Gymraeg.

Dylanwad golygu

Cafodd y canlynol gryn ddylanwad ar y band: Meinir Gwilym, Caban, Celt, Christina Aguilera, Alicia Keyes, Blue (i enwi rhai).[1]

Disgyddiaeth golygu

  • "Profa I Mi" ar y casgliad Disgo Dawn (Recordiau Crai, CRAI CD095, 2003)
  • EP ar label F2 Music.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwefan y BBC; adalwyd 27 Chwefror 2017.

Dolenni allanol golygu