Plât ardyfiannol

Mae'r plât ardyfiannol (neu'r plât tyfiant) yn blât cartilag hyalin yn y metaffisis, ar ben asgwrn hir. Dyma'r rhan o'r asgwrn hir ble mae tyfiant asgwrn newydd yn digwydd; hynny yw, mae'r asgwrn i gyd yn fyw, gyda chynhaliaeth ailfodelu trwy'r meinwe asgwrn i gyd, ond y plât tyfiant yw'r man ble mae'r asgwrn hir yn tyfu (gan ychwanegu hyd iddo).

Plât ardyfiannol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathcartilag hyalin esgyrn, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae plât i'w gael mewn plant a phobl ifanc yn eu llencyndod. Mewn oedolion sydd wedi tyfu'n llawn, mae llinell ardyfiannol wedi cymryd lle y plât. Mae'r newid hwn yn cael ei alw'n derfyniad ardyfiannol.

Arwyddocad clinigol golygu

Gall nam yn natblygiad ac ymraniad y platiau ardyfiannol arwain at afiechydon tyfiant. Y nam mwyaf cyffredin yw acondroplasia, ble ceir nam yn ffurfiad cartilag. Acondroplasia yw achos mwyaf cyffredin corachedd

Toresgyrn Salter–Harris yw toresgyrn perthnasol i'r platiau ardyfiannol ac maen nhw felly'n tueddu i amharu ar dyfiant, taldra neu ffwythiannau ffisiolegol[1].

Mae Clefyd Osgood-Schlatter yn ganlyniad i straen ar y plât ardyfiannol yn y tibia, yn arwain at or-dyfiant esgyrn a lwmp poenus yn y pen-glin.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Mirghasemi, Alireza; Mohamadi, Amin; Ara, Ali Majles; Gabaran, Narges Rahimi; Sadat, Mir Mostafa (November 2009). "Completely displaced S-1/S-2 growth plate fracture in an adolescent: case report and review of literature". Journal of Orthopaedic Trauma 23 (10): 734–738. doi:10.1097/BOT.0b013e3181a23d8b. ISSN 1531-2291. PMID 19858983. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/19858983.

Dolenni allanol golygu