Adain ieuenctid Plaid Cymru yw Plaid Ifanc.

Plaid Ifanc
Ideoleg Sosialaeth

Cenedlaetholdeb Cymreig Annibyniaeth

Sefydlwyd 2005
Cyd-Gadeiryddion Sioned Treharne ac Emyr Gruffydd
Gwefan http://www.plaidifanc.org/

Gwreiddiau golygu

Sefydlwyd rhagflaenydd Plaid Ifanc, sef Cymru X, yn 2005 gan griw o aelodau ifanc Plaid Cymru, yn cynnwys Mabon ap Gwynfor a Bethan Jenkins. Ei nod oedd "annog a rhoi'r gallu i bobl ifanc Cymru i chwarae rôl weithgar ym mhroses wleidyddol y wlad er mwyn creu Cymru flaengar, teg ac annibynnol o fewn y gymdeithas ryngwladol".

Newidiwyd enw'r mudiad i 'Plaid Cymru Ifanc' yn 2011 ac yn ogystal fe newidiwyd strwythur a chyfansoddiad y mudiad. Newidiwyd yr enw eto yn 2017 i 'Plaid Ifanc' er mwyn adlewyrchu'r enw roedd yr aelodau'n ei ddefnyddio ar lafar, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.