Rhaglen gomedi ddychanol oedd Plu Chwithig a ddarlledwyd ar S4C yn 1986 ac 1987. Cynhyrchwyd y gyfres gan Teledu'r Tir Glas.

Plu Chwithig
Genre Comedi dychanol
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 2
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Teledu'r Tir Glas
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 1986 – 1987

Roedd y rhaglenni yn cymryd golwg ar newyddion yr wythnos drwy sgetsus a chaneuon dychanol. Dangoswyd rhaglen arbennig Caneuon Plu Chwithig hefyd oedd yn ddetholiad o'r caneuon yn y gyfres. Roedd y perfformwyr yn cynnwys John Roberts, Phylip Hughes, Dyfan Roberts, Judith Humphreys, Eirian Owen. Cynhyrchydd y gyfres oedd Ifan Roberts.[1]

Cyfeiriadau golygu