Nofel gan Vladimir Nabokov yw Pnin. Ysgrifennwyd ef yn Saesneg yn yr Unol Daleithiau ym 1957. Fe'i cyhoeddwyd mewn rhannau yng nghylchgrawn The New Yorker er mwyn ennill arian tra oedd Nabokov yn chwilio am wasg a fyddai'n fodlon i gyhoeddi ei nofel enwocaf Lolita.

Clawr un o olygiadau cynharaf Pnin

Prif gymeriad y nofel yw'r athro prifysgol Timofey Pnin, emigré o Rwsia sy'n dysgu llenyddiaeth Rwsieg mewn coleg yn America. Rhoddir darlun doniol ac eironig ohono fel dealluswr Rwsieg o'r hen ysgol, yn ceisio yn ofer ymuno â chymdeithas ei wlad newydd. Mae strwythur naratif y nofel hefyd yn haeddu sylw. Fel mae'r hanes yn datblygu, mae'n dod yn amlwg nad sylwebydd di-duedd yw'r adroddwr. Mae'n dod yn rhan o'r gweithrediad ac yn rhoi'r argraff ei fod yn mwynhau dioddefiadau'r prif gymeriad.