Pont Waterloo

pont ar Afon Llugwy, ger Betws-y-Coed

Pont haearn hynafol ar Afon Conwy ger Betws-y-Coed, Sir Conwy, yw Pont Waterloo.

Pont Waterloo
Mathpont ffordd, pont fwa Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBrwydr Waterloo Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1816 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1815 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBetws-y-coed Edit this on Wikidata
SirBetws-y-coed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr13.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0852°N 3.7953°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Am y bont yn Llundain o'r un enw gweler Pont Waterloo, Llundain.

Lleolir y bont rhyw hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r pentref. Fe'i codwyd gan y peiriannydd sifil enwog Thomas Telford. Mae arysgrifen ar fwa'r bont yn cofnodi iddi gael eu hadeiladu yn yr un flwyddyn â Brwydr Waterloo: ond tra bod y bont wedi ei chynllunio a'r rhannau haearn wedi eu hadeiladu yn 1815, ni chwblhawyd codi'r bont yn y flwyddyn honno. Cafodd ei godi i gludo'r hen Lôn Caergybi (yr A5 bellach). Mae Pont Waterloo wedi ei gwneud yn gyfangwbl o haearn (ac eithrio'r ddau fastion carreg sy'n ei chynnal ar y ddwy lan), y seithfed bont yn y byd i gael ei chreu felly.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Quartermaine et al (2003) Thomas Telford's Holyhead Road: The A5 in North Wales, Council for British Archaeology ISBN 1-902771-34-6