Tref yn Inverclyde, yr Alban, ydy Port Glasgow[1] (Gaeleg yr Alban: Port Ghlaschu).[2] Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 15,410.[3]

Port Glasgow
Mathtref, porthladd, large burgh Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,620 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirInverclyde Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd4.75 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.94°N 4.69°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS19000054 Edit this on Wikidata
Cod OSNS321746 Edit this on Wikidata
Cod postPA14 Edit this on Wikidata
Map

Mae Caerdydd 505.3 km i ffwrdd o Port Glasgow ac mae Llundain yn 576.5 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 28.4 km i ffwrdd.

Pentrefan pysgota o'r enw "Newark" oedd Port Glasgow yn wreiddiol, ond ym 1668 daeth yn borthladd i Glasgow pan nad oedd llongau mawr yn gallu llywio Afon Clud bas a throellog i'r ddinas. Fe'i gelwid yn "New Port Glasgow", a fyrhawyd i "Port Glasgow" ym 1775. Roedd Port Glasgow yn gartref i ddociau sych ac adeiladu llongau gan ddechrau ym 1762.

Tyfodd y dref o amgylch ei hardal ganolog bresennol ac mae llawer o adeiladau hanesyddol y dref i'w cael yma. Ehangodd i fyny'r bryniau serth o'i chwmpas i gaeau agored i ffurfio ardaloedd preswyl newyddach.

Copi o'r PS Comet, agerfad masnachol llwyddiannus cyntaf Ewrop a adeiladwyd yn Port Glasgow; lleolir yng nghanol y dref

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 26 Medi 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-08-04 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 26 Medi 2019
  3. City Population; adalwyd 26 Medi 2019
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato