Porth India (Mumbai)

Cofeb yn Mumbai, yr India, ydy Porth India (Saesneg: Gateway of India). Fe'i lleolir ar lannau dyfroedd ardal Apollo Bunder yn Ne Mumbai. Bwa basalt yw'r porth sy'n 26 medr neu 85 troedfedd o uchder. Arferai fod yn lanfa cyntefig a ddefnyddiwyd gan bysgotwyr a chafodd ei adnewyddu i fod yn fan glanio ar gyfer llywodraethwyr Prydeinig a phobl nodedig eraill.

Porth India
Mathporth gorfoledd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol4 Rhagfyr 1924 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1924 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadColaba Edit this on Wikidata
SirMumbai City district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Uwch y môr10 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Arabia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau18.9218°N 72.8347°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolIndo-Saracenic architecture Edit this on Wikidata
PerchnogaethArolwg Archaeolegol India Edit this on Wikidata
Statws treftadaethState Protected Monument Edit this on Wikidata
Manylion
Porth India

Pensaernïaeth golygu

Mae dyluniad y gofeb yn gymysgedd o arddulliau pensaernïol Hindwaidd a Mwslemaidd. Mae'r bwa yn arddull Fwslemaidd tra bod yr arddurniadau yn Hindwaidd. Adeiladwyd o Porth o baslat melyn a choncrit sydd wedi'i gryfhau. Carreg leol ydyw, a daeth y sgrîniau tylledig o Gwalior.

Mae'r gromen ganolog yn 15 medr (49 troedfedd) o ran diameter ac mae'r man uchaf 26 medr (85 troedfedd) uwchlaw'r ddaear. Ail-gynlluniwyd blaen yr harbwr er mwyn cyd-redeg ag esplanad arfaethedig a fyddai'n rhedeg o ganol y ddinas. Costiodd Rs. 21 lakhs (2,100,000) i'w adeiladu, ac fe'i ariannwyd gan Lywodraeth India yn bennaf. Oherwydd prinder arian, ni adeiladwyd heol yn arwain ato, ac felly saif y Porth ar ongl i'r brif heol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Dwivedi, Sharada (1995). Bombay – The Cities Within. Mumbai: India Book House. ISBN 818502880X. Cyrchwyd 2008-11-15. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)