Prifysgol Rutgers

Prifysgol gyhoeddus a leolir yn nhalaith New Jersey, UDA, yw Prifysgol Rutgers (Saesneg: Rutgers University neu yn llawn Rutgers, The State University of New Jersey). Sefydlwyd yn wreiddiol fel sefydliad preifat, Queens College, ym 1766 gan yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd. Cafodd ei ail-enwi'n Rutgers College ym 1825 ar ôl y dyngarwr Henry Rutgers. Yn sgil Deddf Morrill 1862, rhoddid iddo statws coleg grant tir ac felly'n gymwys i dderbyn cymorthdaliadau gan y llywodraeth, ac ym 1924 daeth y coleg yn brifysgol. Lleolir y prif gampws yn New Brunswick a dau gampws llai yn Newark a Camden.[1]

Prifysgol Rutgers
Mathprifysgol ymchwil gyhoeddus, Colonial Colleges, prifysgol grant tir, sea grant institution Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlHenry Rutgers Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 Tachwedd 1766 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNew Jersey Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau40.5017°N 74.4481°W Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Rutgers, The State University of New Jersey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2017.

Dolen allanol golygu