Prosiect Bys ar Frys

Sefydlwyd prosiect Bys ar Frys ym Mai 2002 gan Menter Môn.

Daeth y syniad o gyhoeddi llyfryn negeseuon testun i'r amlwg wrth i'r Fenter gydweithio â phobl ifanc o Ysgol Gyfun Llangefni. Trafodwyd nifer o syniadau a fyddai'n fodd i hybu defnydd o'r Gymraeg ym Môn a thu hwnt, ac fe benderfynwyd cynhyrchu 'tecstiadur'.

Cynhyrchwyd 5000 o gopiau o'r llyfryn i'w dosbarthu am ddim i bob disgybl yn ysgolion uwchradd Môn. Roedd diddordeb ynghylch y tecstiadur wedi bod yn llwyddiannus.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Menter Môn- Adroddiad Saith Mlynedd Cyntaf (Septennial Report). Llangefni: W.O Jones. 2003. t. 35.