Prosiect Lon Las Cefni

llwybr beicio

Llwybr beicio yw Lon Las Cefni, prosiect a sefydlwyd gan Fenter Môn.

Lon Las Cefni
Mathcycling route Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Sefydlwydwyd ganMenter Môn Edit this on Wikidata

Mae'r llwybr sy'n dilyn Cors Ddyga o Langefni i Falltraeth ac ymlaen drwy goedwig Niwbwrch at y Warchodfa Genedlaethol yn Abermenai. Mae hefyd yn cysylltu a llwybr yr arfordir. Hwn yw'r llwybr beicio cyntaf oddi ar y ffordd ym Môn. Mae creu Lon Las Cefni wedi golygu gwaith atgyweirio sylweddol i lifgloddau Afon Cefni drwy arallgyfeirio'r brif ddraeniad.

Safle o Ddiddordeb Arbennig Cors Malltraeth golygu

Mae'r llwybr yn pasio drwy ardal o sensitifedd amgylcheddol (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors Malltraeth) sy'n golygu bod mesurau arbennig wedi eu cymryd i warchod y planhigion a'r mamolion prin sy'n byw yno. I arbed difrod, mae'n ofynnol cymalu'r gwaith dros gyfnod o dair blynedd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Menter Môn- Adroddiad Saith Mlynedd Cyntaf (Septennial Report). Llangefni: W.O Jones. 2003. t. 35.