Afiechyd ffyngaidd sydd yn bregu coed yw pydredd rhuddin.[1] Gellir dod o hyd iddo yng nghannol y boncyff neu tu fewn i'r canghennau. Mae ffwng yn cyrraedd y goeden trwy fandyllau yn y rhisgl cyn bregu y rhuddin. Mae'r rhuddin heintus wedyn yn meddalu gan wanhau strwythur y goeden. Mae Pydredd rhuddin yn arwyddocaol i'r diwydiant torri coed ac mae'r afiechyd yn bresennol ledled y byd, gan effeithio pob rhywogaeth bren galed. Gall yr afiechyd bod yn anodd iawn i'w hatal. Dangosydd da ar gyfer darganfod Pydredd rhuddin ydy presenoldeb madarch yn enwedig madarch y derw (polypore) ar y goeden.

Pydredd rhuddin
Enghraifft o'r canlynolafiechyd planhigion Edit this on Wikidata
Boncyff Spirostachys africana gyda phydredd y galon

Cyfeiriadau golygu

  1. "Heart rot". Science Direct (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Hydref 2023.