Mae Ray Machowski yn gymeriad sy'n ymddangos mewn dwy gêm yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto[1]. Mae'n ymddangos fel prif gymeriad yn Grand Theft Auto III (a osodwyd yn 2001) a chymeriad bach yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories (a osodwyd ym 1998). Mae'n swyddog heddlu llygredig sy'n gweithio gydag Asuka a Kenji Kasen, cyd-arweinwyr y Yakuza, gang troseddol a'i gwreiddiau yn Japan.

Ray Machowski yn GTA III

Yn GTA III, mae Robert Loggia yn lleisio'r cymeriad. Yn Liberty City Stories mai'n cael ei leisio gan Peter Appel.[2]

Yn Vice City Stories mae Ray yn ymddangos fel partner newydd yr heddwas llygredig Leon McAffrey. Mae o'n ymddangos mewn dau o'r ffilmiau i gyflwyno tasgau. Mae'n amlwg nad ydyw wedi ei lygru eto, gan ei fod yn dadlau efo Leon am y ffordd mae'n gweithio ac yn ceisio arestio Toni Cipriani, aelod o'r Maffia sy'n gyd weithio a Leon.[3]

Yn y cyfamser rhwng cyfnod Liberty City Stories a chyfnod GTA III mae pethau wedi newid. Mae Machowski wedi dechrau gweithio i Asuka a Kenji Kasen, cyd-arweinwyr y Yakuza, fel hysbysydd.

Mae Asuka yn cyflwyno Claude, prif gymeriad y gêm i Ray ac mae'n dechrau rhoi tasgau i Claude. Mae cyn partner Ray, Leon McAffrey wedi ei arestio am ei lygredigaeth. Er mwyn osgoi ei gosbi mae'n cytuno i roi tystiolaeth yn erbyn Machowski[4]. O ganfod bod McCaffrey am roi tystiolaeth yn ei erbyn mae Machowski yn anfon Claude i'w ladd. Mae McAffrey yn goroesi ymgais Claude i'w lladd ond yn cael ei anafu'n drwm. Wedi clywed ei fod dal ar dir y byw mae Machowski yn orchymyn Claude i ddarfod y job. Mae Claude yn llwyddo yn yr ail ymgais ac mae Leon yn cael ei ladd[5]. Mae partner newydd Ray hefyd yn bygwth rhoi tystiolaeth yn ei erbyn. Mae'n orchymyn Claude i'w ladd wrth iddo bysgota ar y môr.[6]

Mae Ray yn orchymyn Claude i fynd i gynorthwyo cyn milwr y bu yn gyd ymladd efo yn Nicaragwa, Phill Cassidy. Mae Phill yn gwerthu arfau trwm i droseddwyr. Mae Cartel y Colombiaid am ddwyn arfau ganddo ac mae Claude yn ei gynorthwyo i warchod ei stoc.

Mae Ray wedi bod yn gwneud gwaith i ŵr busnes cyfoethog a llygredig, Donald Love. Mae gan Donald diddordeb gwyrdroëdig o gael rhyw efo cyrff y meirwon. Mae rhywun wedi cael gafael ar luniau o Donald yn ymarfer corff garu ac mae Ray yn orchymyn Claude i ddwyn y lluniau.

Er gwaetha'r ffaith bod Claude wedi lladd y rai oedd am roi tystiolaeth yn ei erbyn, mae'r adran materion mewnol yn parhau a'u hymchwiliad ac mae'n amlwg eu bod ar fin ei arestio. Mae'r CIA hefyd ar ei ôl. Mae swyddogion llwgr o'r CIA wedi bod yn cynorthwyo Cartel y Colombiaid i werthu cyffuriau ac mae Ray wedi bod yn erlid y Colombiaid gan eu bod yn elynion i'r Yakuza. Gyda'r ddau gorff llywodraethol am ei ddal mae Ray yn penderfynu ffoi o Liberty City. Mae Claude yn gorfod ei gynorthwyo i gyrraedd y maes awyr gan osgoi'r Colombiaid a'r awdurdodau. Mae Claude yn llwyddo yn y dasg ac mae o'n hedfan i ffwrdd.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Amino-Ray Machowski". Amino. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2018.[dolen marw]
  2. "Peter Apple ar IMDb". IMDb. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2018.
  3. "GTA Liberty City Stories - Walkthrough - Mission #51 - Crazy '69'". YouTube. 16 Ebrill 2010. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2018.
  4. Machowski: "That scumbag McAffrey, he took more bribes than anyone! He thinks that he's gonna get an honorable discharge if he turns state's evidence. He just squealed!" (Ffilm cyflwyno'r dasg "Silence the Sneak", Grand Theft Auto III.)
  5. GTA 3 - Walkthrough - Mission #45 - Plaster Blaster adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  6. 6.0 6.1 "Fandom - Ray Machowski". Fandom. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2018.