Realaeth (llenyddiaeth)

Mudiad llenyddol sydd yn ceisio cynrychioli'r byd heb ddelfrydoli na rhamanteiddio yw realaeth a ddatblygodd yng nghanol y 19g.[1] Nod yr awdur realaidd yw i bortreadu pobl gyffredin a'u bywydau pob dydd, fel arfer yn canolbwyntio ar y dosbarth canol neu'r dosbarth gweithiol, ac i gyflwyno darluniad cywir a gwrthrychol o gymdeithas, gan gynnwys ei gwirioneddau economaidd a gwleidyddol.

Realaeth
Balzac, un o brif lenorion realaidd y 19g.
Enghraifft o'r canlynolmudiad llenyddol Edit this on Wikidata
Rhan orealaeth Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1830 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1900 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganNaturiolaeth (llenyddiaeth) Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae llenyddiaeth realaeth yn cynnwys disgrifiadau manwl o weithgareddau, amgylchiadau, a lleoliadau arferol a beunyddiol, yn ogystal â chymeriadaeth graff sydd yn adlewyrchu cymhlethdodau ymddygiad a chymhelliaeth ddynol. Ceisiai llenorion realaidd hefyd ymgorffori materion cyfoes a phryderon cymdeithasol yn eu gwaith, gan ymwneud â phynciau megis trefoli, diwydiannu, a swyddogaethau rhywedd.

Prif gyfrwng llenyddol y mudiad realaidd oedd y nofel, ac ymhlith yr awduron gwychaf mae Gustave Flaubert ac Honoré de Balzac yn Ffrangeg, George Eliot yn Saesneg, a Fyodor Dostoevsky a Leo Tolstoy yn Rwseg.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ioan Williams, "Realaeth" yn yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 21 Chwefror 2023.