Awdures o'r Almaen a Israel oedd Recha Freier (ganwyd 1892 - 1984) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, athro, bardd, gweithredydd cymdeithasol ac addysgwr.

Recha Freier
Ganwyd29 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Norden Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ebrill 1984 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethathro, addysgwr, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Israel Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Fe'i cysylltir gyda sefydlu mudiad Youth Aliyah, y mudiad wnaeth arbed bywydau 7,000 o blant Iddewig trwy eu helpu i adael yr Almaen a symud i Balesteina cyn ac yn ystod yr holocost. Ganed Recha Schweitzer i deulu o Iddewon Uniongred. Ei rhieni oedd Bertha (née Levy), athrawes Ffrangeg a Saesneg, a Menashe Schweitzer (1856–1929), a ddysgai nifer o bynciau mewn ysgol gynradd Iddewig. Cafodd ei magu mewn teulu oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth a dysgodd sut i ganu'r piano. Priododd y Rabbi Dr Morizt 'Moshe' Freier (1889–1969) yn 1919, a symudodd gydag ef i fyw i Eschwege, Sofia, ac yna yn 1925 i Berlin. Cawsant dri o feibion ac un ferch. Bu farw Recha yn Jerwsalem yn 1984.[1]

Gyrfa golygu

Yn 1907 symudodd Recha Schweitzer a'i theulu i Silesia lle cafodd ei haddysgu gartref am gyfnod cyn mynychu'r lycée yn Glogau; yno byddai ei chyd-ddisgyblion yn tynnu arni am na fyddai'n ysgrifennu ar y Sabbath. Bu i'r sarhad a'r difrio hwn gael effaith arni weddill ei bywyd a chyfrannodd at ei phenderfyniad i fod yn Seionydd tanbaid. Cwblhaodd Recha Schweitzer ei hastudiaethau yn Breslau, gan basio arholiadau ar gyfer addysgwyr crefydd, ac astudiodd fel myfyrwraig ieitheg yn Breslau a Munich. Yn ddiweddarach, pan oedd wedi priodi ac yn magu teulu bu'n gweithio fel athrawes mewn ysgol uwchradd Almaenaidd yn Sofia, a hefyd fel awdur. Dyfarnwyd iddi nifer o wobrau yn ystod ei bywyd, yn eu plith, doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Hebraeg Jerwsalem yn 1975 a Gwobr Israel (1981) am ei chyfraniad arbennig i gymdeithas a Gwladwriaeth Israel. Wedi ei marwolaeth, sefydlwyd y Recha Freier Educational Center yn Kibbutz Yakum ger Tel Aviv er anrhydedd iddi. Roedd yn awdur toreithiog a gyhoeddodd weithiau megis Arbeiterinnen erzählen (llythrennol: straeon sy'n cael eu hadrodd gan weithwyr benywaidd) Berlin, 1935, Fensterläden (llythrennol: caeadau ffenestro), Hamburg, 1979, Let the Children Come: The Early History of Youth Aliyah, London, 1961. Gwnaeth gyfraniad yn ogystal i fyd cerdd a'r byd opera, gan sefydlu Cronfa Cyfansoddwr Israel yn 1958, Gŵyl 'Testimonium' yn 1966 (er mwyn gosod straeon o ddigwyddiadau canolog ym mywyd y bobl Iddewig i gerddoriaeth) ac aeth ati i ysgrifennu nifer o libretti ar gyfer cyfansoddwyr Iddewig.[2]</ref>[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gudrun Maierhof (2009). "Recha Freier". Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia. Jewish Women's Archive. Cyrchwyd 7 December 2015.
  2. "Israel Prize Official Site - Recipients in 1981 (in Hebrew)".
  3. Hirschberg (2017), pp. 326-329.