Rhaglen Pobl y Goedwig

Mae Rhaglen Pobl y Goedwig (Forest Peoples Programme; FPP) yn elusen ac yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy'n hyrwyddo dull arall o reoli coedwigoedd, yn seiliedig ar barch at hawliau'r brodorion sy'n eu hadnabod orau. Gweithia'r FPP gyda phobl sy'n byw mewn coedwigoedd yn Ne America, Affrica, ac Asia, i'w helpu i sicrhau eu hawliau, adeiladu eu sefydliadau eu hunain a thrafod gyda ddatblygu a rheoli eu tiroedd mewn modd organig, cynaladwy[1]

Rhaglen Pobl y Goedwig
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1990 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolGlobal Citizen Science Partnership Edit this on Wikidata
Gweithwyr47, 42, 34, 28, 27 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
PencadlysMoreton-in-Marsh Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthMoreton-in-Marsh Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.forestpeoples.org Edit this on Wikidata

Amcangyfrifir bod coedwigoedd yn gorchuddio 31% o gyfanswm arwynebedd tir y blaned.[2] O hynny, mae 12% wedi'u dynodi ar gyfer cadwraeth amrywiaeth fiolegol.[2] Mae llawer o'r bobloedd, sy'n byw yn ycoedwigoedd hyn,ac sydd â hawliau iddynt, wedi datblygu ffyrdd o fyw a gwybodaeth draddodiadol sy'n parchu eu hamgylchedd.[3] Eto i gyd, mae polisïau coedwigoedd yn aml yn trin coedwigoedd fel tiroedd gwag a reolir gan y wladwriaeth ac sydd ar gael i'w 'datblygu': drwy eu gwladychu, torri coed, creu planhigfeydd enfawr, codi argaeau, mwyngloddiau, ffynhonnau olew, piblinellau nwy a busnes amaethyddol eraill [4] Mae'r tresmasu yma'n aml yn gorfodi'r brodorion allan o'u cartrefi yn eu coedwigoedd.[5] Mae llawer o gynlluniau cadwraeth i sefydlu gwarchodfeydd wrth gefn (wilderness reserves) hefyd yn gwadu hawliau pobl y goedwig.[5][6][7]

Hanes golygu

Sefydlwyd Rhaglen Pobl y Goedwig (FPP) ym 1990 mewn ymateb i'r argyfwng coedwigoedd, yn benodol i gefnogi brwydrau pobl frodorol y goedwig i amddiffyn eu tiroedd a'u bywoliaeth. Cofrestrodd FPP fel cwmni hawliau dynol anllywodraethol Dutch Stichting ym 1997, ac yna'n ddiweddarach, yn 2000, fel elusen yn y DU, Rhif 1082158 a chwmni cyfyngedig trwy warant (Cymru a Lloegr) Reg. 3868836, gyda'r swyddfa gofrestredig yn y DU.

Cyhoeddiadau golygu

Mae'r Forest Peoples Programme yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau, gan gynnwys adroddiadau, briffiau, llawlyfrau hyfforddi, papurau, cyflwyniadau i gyrff hawliau dynol, datganiadau, llythyrau, ceisiadau gweithredu brys, yn ogystal ag erthyglau newyddion.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Reuters AlertNet -". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-06.
  2. 2.0 2.1 Nations, Food and Agriculture Organization of the United. "Global Forest Resources Assessment". www.fao.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-28. Cyrchwyd 2022-12-15.
  3. "This week in review … FFP e-newsletter highlights indigenous conservation efforts". 28 February 2012.
  4. "ILC Land Portal -". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-18.
  5. 5.0 5.1 Chatty, Dawn; Colchester, Marcus (2002). Conservation and Mobile Indigenous Peoples; Berghahn Books, Oxford. ISBN 9781571818423.
  6. CCMIN-AIPP. "Climate Change Monitoring and Information Network". ccmin.aippnet.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-17. Cyrchwyd 2022-12-15.
  7. "WRM in English - World Rainforest Movement". www.wrm.org.uy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-30.

Dolenni allanol golygu