Rheilffordd Ardal Snailbeach

Agorwyd Rheilffordd Ardal Snailbeach, rheilffordd lled 2' 4”, ym 1877.

Roedd y rheilffordd yn llwyddiannus ar y cychwyn, ond caewyd Pwll Cwmni Tankerville Consuls, defnyddiwr mwyaf y rheilffordd. Agorwyd chwarel yn ymyl Habberley gan Gwmni Ithfaen Ceiriog ym 1905, ac agorwyd lein i'r chwarel. Benthycwyd locomotif 'Sir Theodore o Dramffordd Dyffryn Ceiriog ond roedd o'n rhy eang. Prynwyd locomotif arall, 'Dennis'.

Roedd y rheilffordd yn llwyddiannus eto, hyd at 1909, ond daeth trafig yn llai yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymerodd Cyrnol Holman Fred Stephens drosodd ym 1923, a phrynodd 2 locomotif Cwmni Baldwin oddi wrth Rheilffyrdd Ysgafn yr Adran Rhyfel.[1] Caewyd y pyllau, ond agorwyd Chwarel Bryn Callow. Erbyn 1947 doedd yr injans ddim yn weithredol, a sgrapiwyd nhw yn Snailbeach ym 1950, a defnyddiwyd tractor tan caewyd y lein ym1959. Prynwyd y cledrau gan Reilffordd Talyllyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Tudalen Rheilffordd Ardal Snailbeach
  2. "Gwefan Shropshire History Trust". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-22. Cyrchwyd 2016-03-23.