Rheilffordd danddaearol Glasgow
Mae Rheilffordd danddaearol Glasgow (Gaeleg: Fo-thalamh Ghlaschu; Sgoteg: Glesga Subway; Saesneg: Glasgow Subway) yn rheilffordd yn Glasgow, Yr Alban. Agorwyd y rheilffordd ar 14 Rhagfyr 1896,[1] un o reilffyrdd tanddaearol hynal y byd. Mae'r rheilffordd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas, ac mae ei drenau'n mynd yn y 2 gyfeiriad. Mae 15 o orsafoedd, ac mae’r cylch yn cymryd 24 munud.[2] Lled y traciau yw 1219 mm (4 troedfedd) ac mae hyd y cylch 15.2 cilometr (9.5 milltir).
Math | trafnidiaeth gyflym awtomataidd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 14 Rhagfyr 1896 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Glasgow |
Sir | Dinas Glasgow |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.8616°N 4.2832°W |
Nifer y teithwyr | 12,700,000 |
Rheolir gan | Strathclyde Partnership for Transport |
Hanes golygu
Adeiladwyd y rheilffordd dros gyfnod o pum mlynedd, yn costio £1.5 miliwn. Roedd gan ddim ond Llundain a Budapest reilffyrdd tanddaearol cyn 1896. Caewyd y rheilffordd ar y diwrnod cyntaf oherwydd damwain; ail-agorwyd y rheilffordd ym mis Ionawr 1897. Defnyddiwyd y rheilffordd gan dros 9 miliwn o deithwyr yn ystod ei blwyddyn gyntaf.[1]
Tynnwyd ei cherbydau gan gablen hyd at 1935 pan ddaeth y rheilffordd yn un drydanol.
Dyma fap y rheilffordd yn 1965. Erbyn hyn, Mae 'Merkland Street' wedi dod yn 'Kelvinhall', a 'Copland Road' yn 'Ibrox':
Gorsafoedd[3] golygu
Heol y Bont golygu
Agos at Academi 02, Citizen’s Theatre
Heol Buchanan golygu
Agos at orsaf reilffordd Heol y Frenhines, Gorsaf bws Buchanan, Galeriau Buchanan.
Cessnock golygu
Agos at Ganolfan Gwyddoniaeth Glasgow, IMAX Glasgow, Canolfan SEC.
Cowcaddens golygu
Agos at Ysgol y Celfydyddau Glasgow,, Theatr Ffilm Glasgow, Plas Tenement.
Govan golygu
Agos at Ysbytai Prifysgol Brenhines Elizabeth, Hen Eglwys Plwyf Govan.
Hillhead golygu
Agos at erddi Botaneg Glasgow, Prifysgol Glasgow.
Ibrox golygu
Agos at Stadiwm Ibrox, Canolfan Dringo Glasgow, Parc Bellahouston.
Kelvinbridge golygu
Agos at Parc Kelvingrove, Clwb Comedi The Stand.
Kelvinhall golygu
Agos at Arena Rhwngwladol Kelvinhall, Amgueddfa Kelvingrove.
Parc Kinning golygu
Partick golygu
Agos at orsaf reilffordd Partick, Gorsaf Bws Partick, Amgueddfa Riverside.
Heol Shields golygu
Agos at Amgueddfa Ysgol Heol Scotland.
St. Enoch golygu
Agos at orsaf reilffordd Canolog , Canolfan Sant Enoch.
St. George’s Cross golygu
Agos at Lyfrgell Mitchell.
Heol West golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan 'The Scotsman'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-03. Cyrchwyd 2019-07-03.
- ↑ Gwefan SPT
- ↑ Gwefan SPT