Rhestr o ddwbledi yn y Gymraeg

Mae'r erthygl hon yn cynnwys rhestr o ddwbledi a geir yn y Gymraeg.

Mae gan yr iaith nifer o ddwbledi brodorol, sef pan mae'r un gair neu fôn Proto-Indo-Ewropeg gwreiddiol wedi datblygu mewn ffyrdd gwahanol dros amser i roi geiriau gwahanol inni yn yr iaith fodern. Er enghraifft, roedd y bôn *h₂eHs- yn golygu "llosgi" ym Mhroto-Indo-Ewropeg. Pan ychwanegwyd olddodiad enw haniaethol ato, creodd hyn y gair *h₂eh₁ter- "llosgedd", sef "tân". Datblygodd y gair hwn yn *ātis ac yna *ātinos ym Mhroto-Celteg, wedyn i *ọdɨn yn y Frythoneg ac i'r ffurf odyn mewn Cymraeg Modern. Ar wahân i hyn, derbyniodd yr un bôn gwreiddiol *h₂eHs- olddodiad gwahanol i greu enw gweithredol. Rhoddodd hyn y gair *h₂stḗr "llosgwr", sef "seren". Daeth hwn atom trwy *sterā Broto-Celteg a *ster Frythoneg i'r gair seren heddiw. Gellir dweud felly mai dwbledi yw odyn a seren yn y Gymraeg gan eu bod yn rhannu'r un bôn Proto-Indo-Ewropeg gwreiddiol.

Yn ogystal â dwbledi brodorol yn codi yn yr iaith, mae'r Gymraeg wedi benthyca geiriau yn helaeth trwy'r ganrifoedd, sydd wedi arwain at nifer o ddwbledi eraill yn ymddangos. Lladin a Saesneg yw dwy brif ffynhonnell geiriau benthyg yn y Gymraeg a chan mai ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r rhain, mae'r tair iaith yn rhannu llawer iawn o'r un bonau gwreiddiol. Ym Mhroto-Italeg, er enghraifft, datblygodd *h₂stḗr "seren" yn *stērolā ac yna i stēlla yn Lladin. Benthyciwyd y gair hwn i mewn i Gymraeg cynnar i gyfeirio at yr ŵyl Babyddol a oedd yn dathlu dyfodiad seren a arweiniodd y doethion at y Baban Iesu i'w addoli, sef yr Ystwyll. Dwbledi yw odyn, seren ac Ystwyll felly.

Rhestr o ddwbledi o fonau Proto-Indo-Ewropeg golygu

Gellir olrhain tarddiad y geiriau canlynol yn ôl i Broto-Indo-Ewropeg. Yn aml iawn ymhlith y geiriau benthyg, Lladin oedd ffynhonnell gair benthyg i'r Saesneg a fenthyciwyd yn nes ymlaen i'r Gymraeg. (Noder nad yw'r tabl hwn yn rhestru pob dwbled sydd yn bodoli ac y gellir ychwanegu ato.)

Bôn Proto-Indo-Ewropeg Geiriau brodorol Geiriau benthyg
O'r Lladin O'r Lladin trwy'r Saesneg O'r Saesneg O'r Roeg trwy'r Saesneg O ieithoedd eraill (pob un trwy'r Saesneg oni ddywedir yn wahanol)
*albʰós "gwyn" Alpau Alban (yn syth o'r Wyddeleg)
*bak- "pèg, pastwn" bachyn baglau pèg (Germaneg)
*bikkos "bach" bach, bychan
*bʰask-[1] "sypyn" baich ffagod, ffasgydd
*bʰeg "plygu, crymu" banc, mainc
*bʰel- "chwythu, chwyddo" bol Belg (ôl-ffurfiad) bolster, ffôl, powld ffalws
*bʰendʰ- "rhwymo, clymu" moes (dan ddylanwad y Lladin) band, bond
*bʰer- "dwyn, cario" aber, aberth, arfer, cymer, ofer, bryd, bron (tebygol) affêr offrwm berfa, brest
*bʰer- "berwi" berwi burum[2]
*bʰerǵʰ- "codi, uchel, bryn" bre ("bryn"), brenin, bri, braint, bwrw, Ffraid (santes), lledrith bwrdais (Germaneg neu Ladin)
*bʰleh₃ "blodyn" blodyn fflora
*bʰrewh "berwi, bragu" berw, brwd
*bʰren- "amddiffyn, ymyl" amrant, brwd ffrynt (tebygol)
*bʰuH- "mynd yn, tyfu, ymddangos" bod, bôn, dod prawf bwthyn ffiseg, ffisig, ffylwm
*dem- "adeiladu, trefnu" defnydd domestig
*demh₂- "dofi" dafad, dof, goddef danjerus, danto
*deḱ- "cymryd, canfod" da dysgu dogma
*déḱm̥ "deg"[3] deg, ugain[4] desi- deca- e.e. decagon, decapod
*deḱs- "de"[5] de (y gwrthwyneb i chwith a gogledd), deche
*deyḱ- "dangos" bendith, melltith digidol tocyn
*dóru "coeden" derw, derwydd[6] tar, triw
*dwóh₁ "dau" dau, dwy, ugain[7] beic, bi-, bisged[8]
*dyew- "bod yn llachar, awyr" Duw, dydd, heddiw diwinydd, diwrnod, y blaned/dydd Iau siwrnai
*dʰeh₁- "dodi" rhoi, dadl, cred ffaith (diffaith, effaith, perffaith ac ati) ethos, thema, theo- e.e. theobromin, theocratiaeth
*dʰelgʰ- "dyled" dylwn, dyled
*dʰewbʰ-, *dʰewb- "dwfn" du, dwfn, dŵr dipio
*dʰwer- "drws" dôr, drws fforwm
*gerh₂- "galw'n gryg, garan" garan crac, craen
*gʰeh₁bʰ- "gafael, cymryd" gafael, gafl, yr Eifl abl
*gʰer- "rhwbio, malu, dileu" bras gros
*gʷḗn "gwraig" benyw, menyw gynaeco- e.e. gynaecoleg
*gʷerH- "canmol, dyrchafu" bardd, barn, brawd ("barn"), brennig gras
*gʷeyh₃- "byw" bwyd, byd, byw bio- e.e. bioleg, bioamrywiaeth, swo- e.e. swoleg, swoplancton
*gʷṓws "gwartheg" baw, bugail, buwch
*gʷréh₂us "trwm" breuan baro- e.e. baromedr, barograff
*gʷʰedʰ- "gofyn, gweddïo" gweddi betws
*gʷʰer- "twym, poeth" gwres ffwrn, ffwrnais burum[9] thermo- e.e. thermomedr, thermodynameg
*ǵenh₁- "geni" geneth, geni Nadolig Genesis, injan, naïf
*ǵeh₂r- "galw" gair slogan (Gwyddeleg)
*ǵneh "gwybod" adnabod Gnostig
*ǵr̥h₂nóm "grawn" grawn graen
*ǵʰelh₃- "ffynnu, gwyrdd, melyn" glân, glas, gloyw gold ("Calendula") cloro- e.e. cloroffyl, cloroplast
*Hreth₂- "rhedeg, rholio" gwared, rhedeg, rhod
*h₁ebʰros "ywen" Efrog, efwr
*h₁éḱwos "ceffyl" ebol hipopotamws
*h₁el- "llwyd, carw, rhai

coed â rhisgl golau"

elain elc
*h₁lengʷʰ- "ysgafn" llai, llamu
*h₁néwn̥ "naw" naw nona-
*h₁rewdʰ- "coch" rhudd rwbela
*h₁weydʰh₁- "rhannu" gweddw, gwŷdd ("coed"), Gwyddel (posibl)
*h₂eǵ- "gyrru" amaeth act, actor
*h₂eHs- "bod yn sych, llosgi, aelwyd, lludw" odyn, sêr Ystwyll
*h₂eḱ- "miniog" eithin, ochr, oged astud[10] asid ocsi- e.e. ocsigen, deuocsid
*h₂er- "ffitio, gosod, rhoi at ei gilydd" adrodd, rhif arf, erthygl, urdd artiffisial, artist, rheswm harmoni
*h₂élyos "y tu hwnt, arall" ail, arall, (h)oll, llall
*h₂enh₁- "anadlu" anadl, enaid anifail (benthyciad dysgedig)
*h₂enk- "troad, plygiad" crafanc angor ongl
*h₂ep- "dŵr" afanc, afon acwariwm epa
*h₂erh₃- "aredig" aradr, aredig, erw[11]
*h₂ey- "bywyd, oes" ifanc, oes ustus
*h₂weh₁- "chwythu" awel, gwynt ffan
*h₃dónts- "dant" dant, dannodd orthodonteg
*h₃reǵ- "sythu, iawn, cyfiawn" rhaith e.e. cyfraith, rheithgor, rhiain, rhi ("brenin") real, rêl, rheol reit, rhaca anorecsia
*kadʰ- "gwarchod, gorchuddio" caddug (tebygol) het
*kagʰ- "cymryd, cipio" cae, caen, caer, cau
*kap- "gafael, dal" cael, caeth cabidwl, disgybl, pregeth capsiwl, cas ("cist"), cebl bihafio, hafan, hebog siaso (Ffrangeg o'r Saesneg)
*kelh₁- "galw" ceiliog calan, clas calendr, clasur, clir
*keh₂n- "canu" canu, darogan acen, cantores, ciconia desgant, clasur
*kneh₂- "cnoi" cnoi, cnuf
*krey- "hidlo, gwahanu" crwydr, crynu, pridd (tebygol) consérn critigol, diacritig, endocrinaidd
*ḱel- "gogwyddo" clod, clust, clwyd, clyw, gogledd
*ḱel- "gorchuddio" celu, clyd cell ocwlt helmed (Ffrangeg)
*ken "codi, dechrau" bachgen, cain, cenedl, cynt
*ḱers- "pen, corn" carn, carw corn ceratin, rhinoseros
*ḱers- "rhedeg" car cwricwlwm, cwrs, sgwrs, swcwr
*ḱḗr "calon" craidd, cred cordial, recorder harten cardiadd
*ḱm̥tóm "cant" cant sent (uned ariannol)
*kʷer- "gwneud, adeiladu" pair, peri, pryd, Prydain Brython
*kʷetwóres "pedwar" pedair, pedwar cwadratig
*kʷeys- "canfod" cur sicr siŵr "front" (Ffrangeg)
*kʷís "pwy, beth, a

(geiryn perthynol)"

pa, pwy
*kʷreyh₂- "prynu" gwobr, prynu
*lāp- "disgleirio" llachar lamp
*leg- "gollwng dŵr" dileu, llaith
*legʰ- "gorwedd" gwely, lle
*lewk- "llachar, disgleirio, gweld" llygad, lloer[12] dydd Llun lewc- e.e. lewcemia, lewcocyt lincs (cath wyllt; Groeg trwy'r Lladin)
*leyǵʰ- "llyfu" llyfu, llwy
*linom "llin (planhigyn)" llen, llin (planhigyn) llin e.e. cromlin, llinyn, llinell lein
*med- "mesur, cynghori, iachâd" meddu, meddwl meddyg, modd
*medyos "canol" Mehefin, mewn[13]
*meh₁- "mesur"[14] maint, mawr, mwy mesur, syml[15] metr
*mel- "rhwbio" blawd, malu melin, morthwyl
*men- "meddwl, gweithgarwch ysbrydol" amynedd mans
*mer- "marw, diflannu" marw post mortem morgais (Ffrangeg[16])
*mey- "newid, cyfnewid,

mynd heibio"

mwyn e.e. er mwyn mudo, symud mwtanu
*médʰu "mêl, medd" medd, meddw
*méh₂tēr "mam" modryb metron
*méryos "bachgen, merch" merch, morwyn
*morǵ- "goror, ffin" bro marc martsio, mers (Germaneg)
*ne "nid" na(d), ni(d)
*negʷ- "noeth" noeth gymnasteg
*neḱ- "marw, diflannu" angau neithdar
*new- "newydd" newydd neo-
*nébʰos "cwmwl, niwl" nefoedd nifwl, niwl (Germaneg neu Ladin)
*népōts "ŵyr, disgynnydd, nai (posibl)" nai, nith[17] nepotistiaeth
*nókʷts "nos" heno, neithiwr, trannoeth, nos[18]
*oḱtṓw "wyth" wyth octa-, octo- e.e. octagon, octopws
*óynos "un, sengl" hun(an), un
*peh₃- "yfed" yfed bib
*pekʷ- "coginio, aeddfedu" pobi, poeth bisged[19] , cegin, coginio peptid, pwmpen
*per "mynd trwy, rhodio" rhyd porth ffarwel, fferi, ffordd
*perkʷ- "amgylchynu, byd,

corff, bywyd, cryfder, coeden"

perth fferm (Germaneg)
*perḱ- "agor, rhwygo, palu" rhych porchell porc
*peth₂- "lledu, hedfan" adain, adar, edn, hedfan padell pen ("ysgrifbin") petal
*pewH- "bod yn lân, yn bur" ir pur
*peyH- "saim, llaith" Iwerddon pin, pyg
*peysḱ- "pysgodyn" Wysg pysgod
*pénkʷe "pump" pump penta- e.e. pentagon, pentagram
*pleh₁- "llenwi" llanw, llawn plws
*pleh₂- "gwastad" llaw, llawr, llechen, llodrau palmwydd[20], plant[21], plannu[21] piano (Eidaleg), plaen, pleser (Ffrangeg)
*pleh₂k-, *pleh₂g- "gwastad" plant[22], plannu[22]
*pleth₂- "gwastad" llydan, Llydaw, lled plât fflat (Germaneg)
*plew- "hedfan, llifo, rhedeg" llyw plu fflio
*preḱ- "gofyn" archeb, erchi, rheg
*preyH- "caru, plesio" rhydd ffrind ffrae (Germaneg)
*sed- "eistedd" eistedd, nyth, sedd asesu, plaen, sesiwn set, sêt, setlo
*seh₁- "hir" hir, hwy ("hirach"), hyd hwyr[23]
*seh₁- "mewnosod, hau, plannu" haid[24], haidd, had, hil semen
*seh₂g- "chwilio, olrhain" haeddu, -hau e.e. mwynhau, glanhau
*seyk- "sych" hysb sych
*séh₂ls "halen" halen, halwyn, hallt, heli
*sem- "gyda'i gilydd, un" fel, hafal, hanner sengl, syml[25] hemi- e.e. hemisffer, hemiparasit
*septḿ̥ "saith" saith hepta- e.e. heptagon, heptad
*(s)kleh₂w- "bachyn, pèg" clo cleff
*(s)leh₃y- "glasaidd" lliw, lloer[26]
*(s)neh₁- "nyddu, gwnïo" marwnad, nodwydd, nyddu, neidr (posibl) nerf niwro- e.e. niwroleg, niwrotig
*sóh₂wl̥ "haul" haul, huan ("haul") Sul solar Sowth helio- e.e. heliotropig, heliosentrig
*(s)teg- "gorchuddio" tew, to, , tyddyn[27] teils, toga
*(s)teh₂- "sefyll" sawdl, sefyll, taw ("mai"), ystaen ("tun") ystafell cost, stabl[28], stamen, stamina, statws stand, stesion, stôl, ystad system, thermostat
*ster- "lledu, gwasgaru" ystrad distryw, ystryw stratwm sternwm
*srew- "llifo" ffrwd rhiwmatig, rhythm
*swep- "cysgu" hun ("cwsg") e.e. dihun, hunllef insomnia hypno- e.e. hypnosis, hypnotherpi
*swéḱs "chwech" chwech hecsa- e.e. hecsagon, hecsahedron
*teḱ- "cenhedlu" cu techneg
*ten- "estyn" dan, tan, tant, tynnu (tebygol), tenau (posibl) estyn tonsil tiwn, tôn
*tep- "bod yn dwym, yn boeth" cynnes, tân, tes, twym
*terh₁- "rhwbio, troi, tyllu" taradr triwant (Proto-Celteg)
*terkʷ- "troi" torch tortsh, trwsio (Ffrangeg), tarten (posibl; Ffrangeg)
*ters- "sychu" tir tost ("sâl") tost ("bara wedi'i dostio")
*treb- "annedd, anheddu, adeiladu" tref, trefn tafarn
*tréyes "tri" tair, tri, trydydd
*trewd- "gwthio" trwm, cythrudd (posibl) astrus
*tum- "chwyddo, tyfu, twmpath" tyfu, tomen tiwmor (trwy Saesneg)
*twerḱ- "cerfio, torri, tocio" trychu e.e. trychfil, trychineb, twrch trwnc sarcoffagws
*wáy "o, ah, och, gwae" gwae, gwylan, gwaedd (posibl), gwael (posibl)
*wed- "dŵr" gwydr hydro- e.e hydrogen, hydrocarbon chwisgi (Gaeleg yr Alban), fodca (Rwsieg)
*wedʰ- "rhwymo, gwystlo, arwain" arwain, diwedd, gwedd ("pâr o ychen") morgais (Ffrangeg[29])
*weǵ- "bwyiog, effro, cryf" gŵyl watsio
*weǵʰ- "dod â, cludo" gwaith ("llafur" a "tro" e.e. unwaith) wagen
*wekʷ- "siarad, llefaru" gwep epig
*welh₁- "dewis, eisiau" gwell, gwledd wel
*wenh₁- "caru, dymuno" gwain gwenwyn, Gwener
*werǵ- "gwneud" gwneud organig organ
*wey- "gwe, gwehyddu" gwau, gwe, gwialen
*weyd- "gweld, gwybod" arwydd, derwydd[30], gwedd e.e. pryd a gwedd, gwyn, gwybod, gŵydd e.e. yng ngŵydd, gwŷs, tywys fideo, fisa stori
*weh₁y- "cordeddu, plethu, lapio, gorchuddio" gŵyro, gwden ("gwialen") gwin gwifren, weiar
*wekʷ- "siarad, llefaru" gwisg fest
*wiHrós "gŵr, rhyfelwr" gŵr gwyrth
*wósr̥ "gwanwyn" gwanwyn, gwawr, gwennol awrora
*wleykʷ- "llaith, gwlyb" gwlith, gwlychu, gwlyb
*yek- "dweud" iaith jôc
*yewg- "uno, ieuo" iau ("ffrâm gario/dynnu") sygo- e.e. sygot, sygosbor ioga (Sansgrit)

Rhestr o ddwbledi o fonau eraill golygu

Ymhlith y geiriau canlynol, nid oes modd olrhain y ffynonellair cyn belled â Phroto-Indo-Ewropeg gan nad yw ieithyddion yn sicr o'i darddiad neu efallai oherwydd mai gair a fenthyciwyd o iaith arall yw'r ffynhonnell.

Ffynhonnell Geiriau brodorol Geiriau benthyg
*dūnom "cadarnle, rhagfur" (Proto-Celteg) dinas, murddin, tyddyn[31]
furca "fforch" fforch, fforc (trwy'r Saesneg)
*galā "nerth, gallu" (Proto-Celteg) dial, gallu
*kaballos "ceffyl" (Proto-Celteg) ceffyl cafalîr (Lladin[32] trwy'r Saesneg)
*kattos "cath" (Proto-Celteg) cath caten, cetyn (Saesneg[33])
*kladyeti[34] "trywanu, palu" (Proto-Celteg) claddu, cleddyf
*kʷesdis "darn, rhan" (Proto-Celteg) peth pishyn (Proto-Celteg trwy'r Saesneg)
*rūnā "cyfrinach, dirgelwch" (Proto-Celteg) cyfrin, rhin rŵn (Saesneg)[35]

Cyfeiriadau golygu

  1. Neu efallai bôn nad yw'n Broto-Indo-Ewropeg
  2. Neu o bosibl o'r bôn *gʷʰer- "twym, poeth", sydd yn y tabl hefyd
  3. Mae'n bosibl y daw hwn o *deḱ-.
  4. Daw'r gair o *wikantī Proto-Celteg o *dwi(h₁)dḱm̥ti Proto-Indo-Ewropeg, sef *dwi- (ffurf ar dwóh₁, sydd i'w weld yn y tabl hwn hefyd) + *déḱm̥.
  5. Mae'n bosibl y daw hwn o *deḱ-.
  6. Gair cyfansawdd yw'r gair Proto-Celteg *druwits, "derwydd", sef cyfuniad o'r ddau fôn Proto-Indo-Ewropeg *dóru + *weyd- "un a edwyn goed". Gweler y bôn *weyd- yn y tabl hefyd.
  7. Daw'r gair o *wikantī Proto-Celteg o *dwi(h₁)dḱm̥ti Proto-Indo-Ewropeg, sef *dwi- (ffurf ar dwóh₁) + *déḱm̥, sydd i'w weld yn y tabl hwn hefyd.
  8. Gair cyfansawdd Lladin Canoloesol yw'r gair biscoctus "bisged", sef cyfuniad o bis "dwywaith" + coctus "wedi'i goginio", a ddaw o'r bonau Proto-Indo-Ewropeg *dwóh₁ + pekʷ-. Gweler y bôn *pekʷ- yn y tabl hefyd.
  9. Neu o bosibl o'r bôn *bʰer- "berwi", sydd yn y tabl hefyd
  10. O bosibl trwy'r Ffrangeg
  11. Neu o'r bôn perthynol h₁er- "daear"
  12. Neu o bosibl o *(s)leh₃y- "glasaidd" neu *lewg- "plygu"
  13. Neu yn air benthyg o medón, gair cytras Gwyddeleg
  14. Daw medr ac felly meidrol o'r bôn hwn hefyd.
  15. Gair cyfansawdd oedd simplex Lladin o semel "unwaith" + plicō "plygaf". Daw semel o'r bonau *sem- "gyda'i gilydd, un", a welir hefyd yn y tabl, + meh₁-.
  16. Ymadrodd cyfansawdd oedd mort gage Hen Ffrangeg "ernes marwolaeth" a'r elfen gyntaf yn dod o *mer-. Gweler y bôn *wedʰ- yn y tabl am darddiad y gair gage.
  17. O *néptih₂, ffurf fenywaidd *népōts
  18. Neu efallai o Ladin nox "nos"
  19. Gair cyfansawdd Lladin Canoloesol yw'r gair biscoctus "bisged", sef cyfuniad o bis "dwywaith" + coctus "wedi'i goginio", a ddaw o'r bonau Proto-Indo-Ewropeg *dwóh₁ + pekʷ-. Gweler y bôn *dwóh₁- yn y tabl hefyd.
  20. Efallai trwy'r Ffrangeg neu'r Saesneg
  21. 21.0 21.1 Neu o bosibl o *pleh₂k-, *pleh₂g- "taro", sydd yn y tabl hefyd
  22. 22.0 22.1 Neu o bosibl o *pleh₂- "gwastad", sydd yn y tabl hefyd
  23. Neu o bosibl yn air brodorol, sydd yn perthyn i hir a hwy
  24. Neu efallai o *seh₂- "diwallu, digoni"
  25. Gair cyfansawdd oedd simplex Lladin o semel "unwaith" + plicō "plygaf". Daw semel o'r bonau *sem- + meh₁- "mesur", a welir hefyd yn y tabl.
  26. Neu o bosibl o *lewk- "llachar, disgleirio, gweld" neu *lewg- "plygu"
  27. Mae'n debyg mai dyma'r elfennau a dyn, sef *tegos + *dūnom ym Mhroto-Celteg. Gweler yr ail dabl am *dūnom.
  28. Neu yn syth o'r Hen Ffrangeg
  29. Ymadrodd cyfansawdd oedd mort gage Hen Ffrangeg "ernes marwolaeth" a'r ail elfen yn fôn benthyg o Broto-Germaneg, *wadją, a ddaw o *wedʰ- Proto-Indo-Ewropeg. Gweler y bôn *mer- yn y tabl am darddiad y gair mort.
  30. Gair cyfansawdd yw'r gair Proto-Celteg *druwits, "derwydd", sef cyfuniad o'r ddau fôn Proto-Indo-Ewropeg *dóru + *weyd- "un a edwyn goed". Gweler y bôn *dóru- yn y tabl hefyd.
  31. Mae'n debyg mai dyma'r elfennau a dyn, sef *tegos a *dūnom ym Mhroto-Celteg. Gweler y tabl cyntaf am darddiad *tegos.
  32. Mae'n debyg bod *kaballos Proto-Celteg a *caballus Lladin yn gytras ond nid yw'r berthynas rhyngddynt na'u tarddiad yn sicr.
  33. Mae'n debyg bod *kattos Proto-Celteg a *kattuz Proto-Germaneg yn gytras ond nid yw'r berthynas rhyngddynt na'u tarddiad yn sicr.
  34. Efallai o *kl̥dʰ-yé-ti Proto-Indo-Ewropeg, o *keldʰh₁- +‎ *-yéti, o fôn ailddadansoddedig *kelh₂- "taro, torri" +‎ *-dʰh₁eti "gwneud".
  35. Mae'n debyg bod *rūnā Proto-Celteg a *rūnō Proto-Germaneg yn gytras ond nid yw'r berthynas rhyngddynt na'u tarddiad yn sicr.