Rhiannon Evans

gemydd

Mae Rhiannon Evans yn adnabyddus am ei gemwaith. Magwyd hi yn Aberystwyth yn ferch i Jac Lewis Williams[1]. Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Ardwyn, graddiodd Rhiannon mewn Sŵoleg a chafodd PhD mewn Bioleg gymhwysol.

Rhiannon Evans
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
PlantGwern Gwynfil Edit this on Wikidata

Yn 1970 symudodd nôl i Geredigion a throi at ei diddordeb arall sef celf a chrefft. Sefydlodd fusnes yng Nghanolfan Cynllun Crefft Cymru yn Mai 1971, a hynny yn sgwâr Tregaron[2].

Yn 2010, cyhoeddwyd llyfr Y Llinyn Aur gan Rhiannon.[3]

Derbyniwyd hi i’r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, a'i enw barddol yw Rhiannon GofAnnwn.[4]

Erbyn 2024 roedd ganddi bedwar o blant, gan gynnwys Gwern Gwynfil ac un deg saith o wyrion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhiannon Jewellery - Pwy yw Rhiannon?". Aberystwyth Ego. Cyrchwyd 2024-01-17.
  2. "Amdanom Ni | Gemwaith Rhiannon". www.rhiannon.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-17.
  3. "Y Llinyn Aur - Rhiannon Evans". Gwasg Carreg Gwalch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-17.
  4. "Urddau'r Orsedd 2020 – Gorsedd Cymru". 2020-07-28. Cyrchwyd 2024-01-17.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.