Ffenomen weledol sy'n digwydd yn naturiol pan fo pelydrau golau yn cael eu gwyro i greu llun dadleoledig o wrthrych pell neu'r wybr yw rhith yr anial (Ffrangeg a Saesneg: mirage).[1]

Rhith yr anial
Rhith yr anial, lle'r ymddengys fod dŵr yn y pellter pan nad oes yna ddŵr.
Mathffenomen optegol atmosfferig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn gwrthgyferbyniad â rhithweledigaeth, ffenomen optegol go iawn yw rhith yr anial y gellir tynnu llun ohono â chamera am fod y pelydrau golau yn cael eu gwyro'n uniongyrchol o'r gwrthrych i greu llun ffug o safbwynt y sawl a'i gwelo. Serch hynny, mae'r hyn a welir yn amrywio yn ôl cyneddfau deongliadol y meddwl dynol. Er enghraifft, caiff lluniau aneglur eu camgymeryd am byllau dŵr yn aml.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru: 'rhith yr anial'. Adalwyd 14/07/14
  Eginyn erthygl sydd uchod am opteg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.