Rhwyll y crawcwellt

Tholera cespitis
Rhwyll y crawcwellt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Is-ffylwm: Hexapoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Tholera
Rhywogaeth: T. cespitis
Enw deuenwol
Tholera cespitis
(Denis & Schiffermüller, 1775)
Cyfystyron
  • Noctua cespitis Denis & Schiffermüller, 1775
  • Noctua hordei Schrank, 1801
  • Agrotis autumnalis Stephens, 1827
  • Charaeas confinis Stephens, 1829
  • Apamea chloris Milliére, 1883
  • Neuronia cespitis var. decolor Sohn-Rethel, 1896

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhwyll y crawcwellt, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy rhwyllau'r crawcwellt; yr enw Saesneg yw Hedge Rustic, a'r enw gwyddonol yw Tholera cespitis.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop hyd at Siberia.

34–40 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn ac fe'i gwelir yn hedfan rhwng Gorffennaf a Medi, mewn un genhedlaeth yn unig.

Prif fwyd y siani flewog ydy gweiriau amrywiol gan gynnwys mathau o: Nodus stricta, Calamagrostis purpurea, Festuca a Deschampsia. Mae'r siani flewog i'w gweld rhwng Mawrth a Gorffennaf. Mae'n gaeafgysgu ar ffurf ŵy.

Is rywogaethau golygu

  • Tholera cespitis cespitis
  • Tholera cespitis armena Hacker, 1986

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r rhwyll y crawcwellt yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.

Dolennau allanol golygu