Rhyddid y Nofel

llyfr

Casgliad o erthyglau am y nofel Gymraeg yw Rhyddid y Nofel a olygwyd gan gan Gerwyn Williams.

Rhyddid y Nofel
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddGerwyn Williams
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1999 Edit this on Wikidata
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddmewn print
ISBN9780708315385
GenreLlenyddiaeth Gymraeg

Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr golygu

Cyfeirlyfr ar bwnc y nofel Gymraeg, sef casgliad o 7 erthygl gynhwysfawr ar y genre, adolygiadau byrion o 15 testun yn rhychwantu'r 20g a 4 cyfweliad ag awduron cyfoes, gan 15 o gyfranwyr, yn ogystal â rhagymadrodd gan y golygydd.


Rhan o adolygiad ar Gwales golygu

gan Owen Thomas
Mae Rhyddid y Nofel yn ymrannu’n ddwy adran: y naill yn trafod cefndir y nofel Gymraeg gynnar, datblygiad y nofel ar ôl Daniel Owen, y nofel hanes Gymraeg, pennod gan Islwyn Ffowc Elis ar themâu’r nofel Gymraeg (sy’n ymdriniaeth anghydnaws â phenodau eraill yr adran hon), perthynas yr Eisteddfod â’r nofel, y nofel rhwng 1975 a 1982 ac, yn olaf, y nofel ôl-fodern. Mae’r ail adran yn trafod nofelau unigol, o Gŵr Pen y Bryn i Dirgel Ddyn. Ni cheir yr un bennod newydd gan yr amrywiol gyfranwyr ac, o’r herwydd, y mae’n gyfrol sydd yn debycach i ddogfen hanesyddol nag i gyflwyniad cyfoes i’r maes bywiog hwn.

At ei gilydd, mae’r golygydd wedi dewis croesdoriad eang o gyfranwyr, ond collwyd cyfle i adargraffu’r adolygiadau chwyrn ac anffafriol o Monica, Saunders Lewis ac Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard pan y’u cyhoeddwyd gyntaf. Byddai’r rheiny wedi rhoi rhyw syniad i ddarllenydd dechrau’r unfed ganrif ar hugain o’r rhagfarn a’r rhagdyb yr oedd y nofelau arloesol hyn yn adweithio yn eu herbyn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013