Defnyddir y term rhyddid y wasg i gyfleu nifer o bethau gan gynnwys rhyddid y wasg draddodiadol, y teledu, y cyfryngau, cyfryngau torfol ac unrhyw fath o gyhoeddiad arall i fynegi barn yn gyhoeddus ar bapur neu gyfrwng digidol. Yn baradocsaidd, mae'r term yn cyfleu'r syniad fod y farn a gyflwynir yn rhydd o unrhyw sensoriaeth neu ddylanwad gan y sefydliad neu'r wladwriaeth, ond caiff ei ddiffinio a'i gadw o fewn mesurau cyfreithiol a chyfansoddiad statudol.

Mynegai Rhyddid y Wasg, 2014[1]

O ran gwybodaeth sy'n ymwneud â llywodraeth, gall unrhyw lywodraeth fanylu pa ran ohoni i'w gwneud yn gyhoeddus a pha ran y dylid ei chuddio rhag y cyhoedd. Maent yn ystyried rhai materion yn gyfrinachol am gyfnod penodol o amser, cyn eu rhyddhau, yn enwedig pan fo'n fater sy'n ymnewud â diogelwch cenedlaethol y wladwriaeth. Ar y llaw arall, mae gan lawer o wledydd systemau i agor y wybodaeth er mwyn ei rhannu â'r cyhoedd e.e. yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon gellir gwneud 'Cais i Ryddhau Gwybodaeth' (neu FoIR').

Dywed Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol 1948 y Cenhedloedd Unedig: "Mae gan bawb yr hawl i ryddid barn ac i'w mynegi. Mae'r hawl hwn yn cynnwys y rhyddid i'r farn honno heb ymyrraeth yn ogystal â rhannu'r farn honno mewn unrhyw gyfrwng, heb ffiniau."[2]

Atal rhyddid i gyhoeddi golygu

Ofnir bod rhagor a rhagor o wladwriaethau yn mygu uniolion rhag mynegi eu hunain, neu gyhoeddi gwybodaeth, a bod hyn yn ddatblygiad milain. Dyma rai enghreifftiau diweddar:

Mesur y rhyddid golygu

Un o'r prif gyrff sy'n mesur maint y rhyddid neu'r gwaharddiadau sy'n bodoli yng ngwledydd y byd yw 'Gohebyddion Heb Ffiniau' (Reporters Sans Frontières (RSF)), sydd a'i ganolfan yn Ffrainc ac sy'n ceisio hyrwyddo a datblygu rhyddid y wasg yn ogystal â'i monitro.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mynegai Rhyddid y Wasg, 2014" Archifwyd 2014-02-14 yn y Peiriant Wayback., 'Gohebyddion Heb Ffiniau', 11 Mai 2014
  2. Cyfieithiad o "Everyone has the right to freedom of opinion and expression; this right includes freedom to hold opinions without interference, and impart information and ideas through any media regardless of frontiers"
  3. 'Y Guardian'; 'Police warn sharing James Foley killing video is a crime; Awst 2014; adalwyd 11 Ionawr 2014.