Rhyfel Yom Kippur

Ymladdwyd Rhyfel Yom Kippur (Hebraeg: הכיפורים, Milkhemet Yom HaKipurim), hefyd Rhyfel Mis Hydref (Arabeg: حرب أكتوبر, ħarb October) rhwng 6 Hydref a 26 Hydref 1973, rhwng Israel a chynghrair o wladwriaethau Arabaidd, yn bennaf yr Aifft, Syria ac Irac.

Rhyfel Yom Kippur
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad1973 Edit this on Wikidata
Rhan oGwrthdaro Arabaidd-Israelaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd6 Hydref 1973 Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Hydref 1973 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gany Rhyfel Athreuliol Edit this on Wikidata
Olynwyd gan1982 Lebanon War Edit this on Wikidata
LleoliadCamlas Suez, Ucheldiroedd Golan, Sinai, Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEgyptian 25th Brigade ambush, Battle of the Chinese Farm, Operation Abirey-Halev, Battles of Fort Budapest, Battle of Fort Lahtzanit, Third Battle of Mount Hermon, First Battle of Mount Hermon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dechreuodd y rhyfel pan ymosododd yr Aifft yn Sinai a Syria ar Ucheldiroedd Golan ar Yom Kippur, un o ddyddiau gŵyl pwysicaf Iddewiaeth. Roedd y tiriogaethau hyn wedi bod ym meddiant Israel ers y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967.

Nid oedd Israel yn barod am yr ymosodiad, ac yn ystod y 48 awr gyntaf, meddiannwyd tiriogaethau sylweddol gan y byddinoedd Arabaidd, gyda'r Syriaid yn meddiannu Ucheldiroedd Golan a'r Aifft yn meddiannu rhan helaeth o Sinai. O'r cyfnod yma ymlaen, dechreuodd Israel eu gwthio yn ôl ac erbyn yr ail wythnos, roedd y Syriaid wedi eu gyrru o Ucheldiroedd Golan. Yn Sinai, croesodd byddin Israelaidd Gamlas Suez. Daeth y rhyfel i ben pan drefnodd y Cenhedloedd Unedig gadoediad.

Esgorodd buddugoliaeth Israel yn y Rhyfel ar Gynllun Alon - cynllun brys a ddiwygiwyd sawl gwaith wedyn ar beth i wneud gyda'r tiroedd newydd a'r boblogaeth Arabaidd a feddiannwyd gan Israel. Mae'r Cynllun wedi ei beirniadu sawl gwaith ers hynny, er bod sawl elfen ohoni wedi dod yn sail ar gyfer polisi ad hoc Israel at diroedd y Palesteiniaid.

Y rhyfel yn Sinai
Y rhyfel ar Ucheldiroedd Golan
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.