Mae Rhys Trimble (ganwyd 9 Medi 1977) yn fardd sydd yn ysgrifennu, cyhoeddi, perfformio, canu, creu gwaith gweledol a byrfyfyriol (improvisational) yn Gymraeg a Saesneg.[1][2]

Rhys Trimble
Ganwyd9 Medi 1977 Edit this on Wikidata
Livingstone Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Astudiodd lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2010, gan gyhoeddi ei gyfrol cyntaf o farddoniaeth Keinc yn yr un flwyddyn. Derbyniodd PhD o Brifysgol Northumbria, Newcastle, gyda'r thesis doethurol Tywysogion.[3] [4]

Mae ei waith pellach wedi'i gyhoeddi mewn dros 15 cyfrol yng Nghymru, Lloegr a'r Unol Daleithiau yn cynnwys Swansea Automatic, Anatomy Mnemonics for Caged Waves ac Hexerisk.[5][6]

Mae Timble hefyd yn ganwr gyda'r grŵp pync Lolfa Binc.[7] ac wedi cyfrannu gelf gyhoeddus yn Denbigh, Dyffryn Conwy a Blackpool. Fe'i enwebwyd am wobr T. S. Eliot yn 2016.Mae hefyd yn olygydd y wefan farddoniaeth arbrofol ctrl+alt-del ers 2008.[8]

Mae ei waith wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd yn cynnwys Slofaceg, Latfieg, Sbaeneg, Tyrceg a Galiseg. Mae ei gerddi hefyd wedi'u cynnwys mewn nifer o gyfrolau o flodeugerddi. Mae wedi perfformio a chymryd rhan mewn nifer o brojectau celfyddydol ar draws y byd yn cynnwys India, Croatia, Jamaica a Latfia.[9][10][11][12][13].[14]

Cyhoeddiadau golygu

Cysylltiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Smith, Hazel (2016). The Contemporary Literature-Music Relationship. Routledge. tt. 98–. ISBN 978-1-317-52902-6.
  2. Goodby, John (2010). "Prof". Angel Exhaust 21.
  3. "Pass Masters: Students' delight as they pick up degrees". Daily Post. 14 July 2010. Rhys Trimble, 32, who lives in Bethesda, graduated with a BA in Literature and Creative Writing and has recently published his first book. Keinc, (in English 'branch)', which twists between mythology and relationships.
  4. "Postgraduate Research Creative Writing". University of Northumbria at Newcastle.
  5. "Swansea Automatic". Glasfryn Project. 12 May 2015.
  6. Nelson, Camilla. "Rhys Trimble – Hexerisk". Shearsman Books (Review). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-19. Cyrchwyd 2018-04-18.
  7. Coxon, Steve. "GIG REVIEW – Lolfa Binc, Teeth Crack, Spam Javelin @ The North, Rhyl". Link2Wales.
  8. Finch, Peter (Feb 12, 2011). "the insider:peter finch". Wales Online.
  9. "kloaka 1/2017". 25 May 2017.
  10. Davies, Nia. "Latvian Poetry". Poetry Wales 53 (2).
  11. Parker, R.T.A. Leg Avant. Crater. ISBN 9781326469221.
  12. "Círculo de Poesía - Poesía de Gales: Rhys Trimble". circulodepoesia.com.
  13. Hedeen, Katherine, M., Núñez, Victor Rodrígues (2015). Nuestra Tierra de Nadie. Temblor de cielo. ISBN 978-607-8167-47-0.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  14. "Rhys Trimble". Literature Across Frontiers.