Ricky Valance

Canwr o Gymro

Canwr Cymreig oedd Ricky Valance (10 Ebrill 193612 Mehefin 2020).[1][2] Roedd yn fwyaf enwog am ei sengl aeth i rif un yn y siartiau gyda'r gân "Tell Laura I Love Her", a werthodd dros filiwn o gopïau yn 1960.[3]

Ricky Valance
GanwydDavid Spencer Edit this on Wikidata
10 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Ynys-ddu Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 2020 Edit this on Wikidata
o gorddryswch Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Graphophone Company Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rickyvalance.com Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd David Spencer yn Ynys-ddu ger Wattsville, Sir Fynwy, yr hynaf o saith plentyn.[3] Ymunodd a'r RAF pan oedd yn 17.[3]

Dechreuodd ei yrfa gerddorol pan adawodd y lluoedd arfog.[3] Dechreuodd berfformio mewn clybiau lleol am gwpl o flynyddoedd cyn iddo gael ei ddarganfod gan gynrychiolydd A&R o EMI, a fe'i rhoddwyd gyda'r cynhyrchydd recordiau Norrie Paramor a fe'i harwyddwyd i label Columba ar EMI.[4]

Gyrfa golygu

Erbyn 1960 roedd yn defnyddio'r enw Ricky Valance. Roedd wedi penderfynu ar yr enw cyntaf, a gwelodd hyfforddwr ceffylau ar y teledu o'r enw Colonel Valance.[5]

Yn y sesiwn recordio cyntaf, cafodd Valance gyfle i recordio'r gân boblogaidd Americanaidd, Tell Laura I Love Her".[4] Aeth i frig y siartiau yn Medi 1960, drwy gael ei chwarae yn gyson ar Radio Luxembourg.[4][6]

Fe roedd y BBC yn gwrthod chwarae caneuon trychineb arddegau fel Tell Laura I Love Her. Ni chafodd llawer o recordiau Americanaidd tebyg ei ryddhau o gwbl yn Y Deyrnas Unedig.[7]

Rhif un yn y siartiau golygu

Ni chafodd fersiwn wreiddiol Ray Peterson o "Tell Laura I Love Her", a chyd-ysgrifennwyd gyda Jeff Barry, ei ryddhau yn Y Deyrnas Unedig, oherwydd bod Recordiau Decca yn teimlo ei fod yn ddi-chwaeth.[7] Yn dilyn hyn trefnodd EMI i Valance recordio'r gân.[3] Ac felly y daeth Valance i fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i gyrraedd y brig - gan mai Shirley Bassey oedd y Gymraes gyntaf.

Ar ôl mynd i frig Siart Senglau y DU, fe ymddangosodd Valance ar gystadleuaeth A Song For Europe 1961, gan obeithio cynrychioli gwledydd Prydain yng Nghystadleuaeth Eurovision. Daeth ei gân, "Why Can't We?", yn drydydd allan o naw cynnig; a'r enillydd oedd "Are You Sure?" berfformiwyd gan the Allisons.

Fe ryddhawyd senglau pellach yn cynnwys "Movin' Away", "Jimmy's Girl" a "Six Boys".[3] Gwerthwyd dros 100,000 copi o "Jimmy´s Girl", ac fe aeth "Moving Away" i rif un yn Awstralia a Scandinavia, gan werthu dros 150,000 o gopïau. Am nad oedd yn gallu atgynhyrchu ei lwyddiant cychwynnol yn siart y DU, mae'n aros felly yn seren wîb.

Gyrfa hwyrach golygu

Yn 2001, recordiodd albwm One of the Best yn Nashville, Tennessee.

Daeth nôl i wledydd Prydain yn 2015 ac roedd yn gobeithio ail-gysylltu gyda'i wreiddiau Cymreig gan ystyried trefnu taith o gwmpas Cymru.[8] Mewn cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2015, derbyniodd wobr am fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i cael Rhif Un yn y siartiau a canodd yno ar y noson.

Yn 2017 ryddhaodd ei gân olaf cyn ymddeol. Cyhoeddwyd "Welcome Home" i godi arian at Gymdeithas yr RAF ac Amgueddfa yr RAF.[5]

Bywyd personol golygu

Aeth Valance i fyw yn Cabo Roig ar gyrion Torrevieja, y Costa Blanca yn Sbaen, lle roedd yn dal i berfformio yn rheolaidd. Roedd ganddo dy hefyd ym Mlaenau Gwent yng Nghymru. Cafodd drawiad ar y galon yn y 2015.

Erbyn 2017 roedd yn byw gyda'i wraig yn Skegness.[5]

Bu farw ar 12 Mehefin 2020. Roedd yn 84 mlwydd oed, ac wedi bod yn yr ysbyty gyda dementia yn y misoedd cyn ei farwolaeth. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Santes Fair yn Goldington, Bedfordshire ar 13 Gorffennaf 2020.[9][10][11]

Disgyddiaeth golygu

Senglau DU golygu

Columbia golygu

  • DB4493 - "Tell Laura I Love Her" / "Once Upon a Time" (1960)
  • DB4543 - "Movin' Away" / "Lipstick on Your Lips" (1960)
  • DB4586 - "Jimmy's Girl" / "Only the Young" (1961)
  • DB4592 - "Why Can't We" / "Fisherboy" (1961)
  • DB4680 - "Bobby" / "I Want to Fall in Love" (1961)
  • DB4725 - "I Never Had a Chance" / "It's Not True" (1961)
  • DB4787 - "Try to Forget Her" / "At Times Like These" (1962)
  • DB4864 - "Don't Play No.9" / "Till the Final Curtain Falls" (1962)

Decca golygu

  • F12129 - "Six Boys" / "A Face in the Crowd" (1965)

Crystal golygu

  • CR7004 - "Abigail" / "My Summer Love" (1969) (as Jason Merryweather)

Tank golygu

  • BSS313 - "Hello Mary Lou" / "Walking in the Sunshine" (1978)

Umbrella golygu

  • UMO111 - "Daddy's Little Girl" / "Ticket to Dream" (1988)

One Media iP golygu

  • "Welcome Home" / "Tell Laura I Love Her" (55th Anniversary Edition) (2016)[12]

Albymau DU golygu

His Master's Voice golygu

  • CLP1497 - The Two Sides of John Leyton (1961)
  • CLP1664 - Always Yours (1963)

Cyfeiriadau golygu

  1. The first Welshman to have a number one hit has recorded his last song , WalesOnline, 11 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 12 Mehefin 2020.
  2.  Tell Laura I Love Her (Ricky Valance). Jon Kutner (26 Mai 2019). Adalwyd ar 12 Mehefin 2020.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 "BBC Wales - Music - Ricky Valance". Bbc.co.uk. 2009-07-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-06. Cyrchwyd 2014-01-28.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Ricky Valance Biography - Music Artist Band Biographies - Artists Bands Bio - FREE MP3 Downloads". Music.us. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-12. Cyrchwyd 2014-01-28.
  5. 5.0 5.1 5.2 Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.
  6. Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. t. 579. ISBN 1-904994-10-5.
  7. 7.0 7.1 Rice, Jo (1982). The Guinness Book of 500 Number One Hits (arg. 1st). Enfield, Middlesex: Guinness Superlatives Ltd. t. 53. ISBN 0-85112-250-7.
  8. Sixties chart topper who made rock and roll history wants to reconnect with his Welsh roots; WalesOnline; Adalwyd 2015-12-15
  9. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw BBC obit
  10. "Seventies star Ricky Valance passes away in Spain". The Leader. 12 Mehefin 2020.
  11. "Sixties singing star Ricky Valance laid to rest in Bedfordshire". ITV Anglia News. 13 Gorffennaf 2020.
  12. "Welcome Home – Single by Ricky Valance on Apple Music". iTunes Store. 1 Mawrth 2017. Cyrchwyd 17 Mawrth 2017.