Ross, Skye a Lochaber (etholaeth seneddol y DU)

Cyfesurynnau: 57°16′26″N 5°53′46″W / 57.274°N 5.896°W / 57.274; -5.896

Mae Ross, Skye a Lochaber yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn rhan canol Ucheldir yr Alban.

Ross, Skye a Lochaber
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Ross, Skye a Lochaber yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanUcheldir yr Alban
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolIan Blackford SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oRoss, Skye a Gorllewin Inverness
Dwyrain Inverness, Nairn a Lochaber
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Ian Blackford, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Gydag arwynebedd o 12,000 km2, hon yw'r etholaeth fwyaf yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.[2] Hyd at Etholiad Cyffredinol 2015 cynrychiolwyd yr etholaeth gan cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy.

Aelodau Seneddol golygu

Etholiad Member Plaid
2005 Charles Kennedy Y Democratiaid Rhyddfrydol
2010 Charles Kennedy Y Democratiaid Rhyddfrydol
2015 Ian Blackford Plaid Genedlaethol yr Alban
2017 Ian Blackford Plaid Genedlaethol yr Alban
2019 Ian Blackford Plaid Genedlaethol yr Alban

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015
  2. "Frequently Asked Questions: Elections – UK Parliament". Parliament.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-08. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2010.