Tref yn nhalaith Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Rottweil. Saif ger Afon Neckar rhwng y Fforest Ddu ac Alpau Swabia.

Rottweil
Mathdinas, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, tref ardal mawr Baden-Württemberg, dinas imperialaidd rydd Edit this on Wikidata
Poblogaeth25,513 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1140 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChristian Ruf Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBrugg, L'Aquila, Imst Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRottweil VVG Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd71.76 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr599 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Neckar Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaZimmern ob Rottweil, Villingendorf, Dietingen, Deißlingen, Schömberg, Zimmern unter der Burg, Frittlingen, Aldingen, Dunningen, Bösingen, Wellendingen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.1681°N 8.6247°E Edit this on Wikidata
Cod post78611–78628 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChristian Ruf Edit this on Wikidata
Map
Y Tŵr Du, Rottweil (tua 1230)

Sefydlwyd yn y flwyddyn 73 gan y Rhufeiniaid, a adeiladodd ganolfan filwrol yno. Derbynodd statws uniongyrchedd ymerodrol ym 1140 gan sefydlu perthynas â'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dyrchafwyd yn ddinas gan Ffrederic II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1230 ac hon yw'r Stadt hynaf yn Baden-Württemberg. Daeth yn un o seddi'r Hofgericht, y llys ymerodrol, a chyda hunanweinyddiaeth a chyfraith yr ius gladii ers 1359. Ffurfiwyd gynghrair rhwng Rottweil ac Chydffederasiwn y Swistir ym 1463, ac ym 1519 ymunodd Rottweil â'r Cydffederasiwn fel tiriogaeth gysylltiedig. Collodd Rottweil ei statws fel dinas ymerodorol rydd yn sgil cyfrynguno'r Almaen a daeth y ddinas yn rhan o Württemberg ym 1802.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Münster Heiliges Kreuz ("Eglwys y Groes Sanctaidd")
  • Kapellenkirche (eglwys)
  • Lorenzkapelle (eglwys)
  • Eglwys Sant Pelagius
  • Das Schwarze Tor ("Y Tŵr Du", tua 1230)
  • Neuadd y Dref (1521)

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.